Eich Cwestiynau - Ynglŷn â’r prawf
Pryd mae’r prawf yn cael ei wneud?
Bydd dros 70% o fabanod yn cael y prawf yn ystod wythnos gyntaf eu hoes neu cyn gynted â phosib wedi hynny. Y nod yw cwblhau’r broses sgrinio cyn i’r babi gyrraedd pedair wythnos oed. Efallai na fydd hyn yn bosib os cafodd eich babi ei eni’n gynnar neu os yw’n wael ac mae angen iddo fynd i Uned Gofal Arbennig. Yn yr achos hwnnw, bydd y prawf yn cael ei wneud cyn gynted ag y bydd yn briodol.
Ble fydd y prawf yn cael ei wneud?
Rydyn ni’n ceisio sgrinio cymaint â phosib o fabanod yn yr ysbyty, a’n gobaith yw cynnig y prawf cyn i chi adael yr ysbyty. Fel arall, mae’n bosib ei wneud yn eich cartref neu mewn clinig lleol.
Sut mae’r prawf yn cael ei wneud?

Sgriniwr wedi’i hyfforddi sy’n gwneud y prawf sgrinio tra mae’ch babi’n llonydd neu’n cysgu. Fydd y prawf ddim yn brifo’ch babi nac yn teimlo’n anghyfforddus. Mae’n cymryd rhai munudau’n unig i wneud y prawf a gallwch chi aros gyda’ch babi.