Skip navigation and go straight to content

Sgrinio Clyw Babanod Cymru

Gweithwyr proffesiynol

MacArthur Communicative Development Inventory

Mae rhaglen Sgrinio Clyw Babanod Cymru’n cadw gwybodaeth am blant sydd â cholled ar eu clyw. Rydyn ni’n cofnodi manylion fel eu hoedran ar adeg adnabod y golled, eu hoedran pan gawson nhw declyn clyw, lefel y golled a’r math o golled.

Er mwyn asesu a yw cael gwybod yn fuan am y golled yn effeithio ar ddatblygiad iaith y plant yma, bydd y rhaglen sgrinio’n casglu gwybodaeth am y geiriau maen nwh’n eu defnyddio. I wneud hyn, byddwn ni’n defnyddio rhestr MacArthur.

Cafodd y rhestr yma’i dewis ar ôl pwyso a mesur dewis helaeth o dechnegau. Mae’r rhestr yma’n:

  • Hawdd ei defnyddio.
  • Yn caniatáu i rywun gymharu’r plant â phlant sy’n clywed.
  • Yn addas i’w defnyddio gyda phlant dan dair blwydd oed.

Mae rhestr MacArthur yn cael ei chydnabod ar hyd a lled y byd fel ffordd o fesur. Mae amryw o raglenni sgrinio clyw’n ei defnyddio i bwyso a mesur pa mor effeithiol yw eu gwasanaeth, ac mae hefyd yn cael ei defnyddio fel techneg ymchwil.

Byddwn ni’n defnyddio’r addasiad i Saesneg Prydain o’r fersiwn Saesneg Americanaidd wreiddiol*. Mae’r fersiwn yma’n rhoi cyfle i ni gymharu ein data â’r normau a gafodd eu sefydlu gan y bobl a ddyfeisiodd restr MacArthur, a’r normau sy’n cael eu sefydlu mewn gwledydd eraill.

Ni fyddwn ni’n defnyddio rhestr MacArthur gyda phlant sydd ag anghenion cymhleth a lluosog. Nid yw’n dechneg sy’n addas ar eu cyfer.

Byddwn ni’n defnyddio’n cronfa ddata o blant â cholled ar eu clyw i adnabod y plant ifanc fis cyn pen-blwydd y plentyn yn ddwy oed. Byddwn ni’n cysylltu yn y lle cyntaf â’r Gwasanaethau Cymorth Synhwyraidd, yr Athrawon ar gyfer Pobl Fyddar a’r Therapyddion Lleferydd ac Iaith sy’n gweithio gyda’r plentyn a’r teulu. Yn yr achosion lle mae’r gwasanaethau’n defnyddio rhestr MacArthur yn barod, byddwn ni’n gofyn am ganiatâd y rhieni iddyn nhw rannu eu gwybodaeth â ni. Os nad yw’r gwasanaethau’n defnyddio MacArthur, byddwn ni’n anfon copi’n uniongyrchol at y rhieni.

Os ydych chi’n siarad iaith heblaw Saesneg yn eich cartref, rydyn ni’n dal yn awyddus i’ch gweld yn llenwi’r rhestr wirio. Yn yr achosion yma, byddwn ni’n gofyn i’r rhieni nodi ar dudalen flaen y rhestr wirio ba iaith maen nhw’n ei defnyddio gartref. Mae hyn yn cynnwys teuluoedd sy’n defnyddio Iaith Arwyddion fel eu prif iaith. Nid oes fersiwn Gymraeg wedi’i safoni o restr MacArthur ar gael hyd yn hyn. Os y Gymraeg yw iaith eich cartref, rydyn ni’n dal yn awyddus i chi lenwi’r fersiwn Saesneg ac i ddweud wrthym mai’r Gymraeg yw iaith y cartref. Tan fydd fersiwn Gymraeg wedi cael ei safoni a’i chyhoeddi, bydd defnyddio’r fersiwn Saesneg yn rhoi peth gwybodaeth werthfawr i ni.

Bydd defnyddio’r math yma o ddull hydredol o gasglu gwybodaeth am y broses o ddatblygu geirfa’n ffordd i ni greu cronfa o ddata cenedlaethol. Gyda’r gronfa, gallwn ni fesur perfformiad plant o’r naill garfan i’r llall. Gallwn ni bwyso a mesur sut mae newidiadau yn y gwaith o asesu a rheoli clyw’n effeithio ar y dangosydd cynnar yma o’r datblygiad yn iaith y plant.

Byddwn ni’n anfon ffurflen rhoi caniatâd gyda rhestr wirio MacArthur. Byddwn ni’n gofyn am ganiatâd rhieni i’n cydweithwyr yn y gwasanaethau addysg ac iechyd rannu eu gwybodaeth o restr MacArthur â ni.

Bydd cael cymorth rhieni a’n cydweithwyr yn y gwasanaethau addysg ac iechyd yn werthfawr yn y gwaith o gasglu a rhannu’r wybodaeth bwysig yma. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chi.

*Klee, T a Harrison, C (2001). CDI Words and Sentences: validity and preliminary norms for British English. Papur a gafodd ei gyflwyno mewn seminar ar iaith plant, Prifysgol Swydd Hertford.