Skip navigation and go straight to content

Sgrinio Clyw Babanod Cymru

Newyddion

Ionawr 2010 - pdf file Cyhoeddi Adroddiad y Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer 2009 (PDF ffeil 258KB)

Hydref 2009 - Iechyd Cyhoeddus Cymru ar waith.

O ddydd Iau 1 Hydref, bydd cyfrifoldeb ar gyfer swyddogaethau a gwasanaethau Sgrinio Clyw Babanod Cymru yn cael eu hysgwyddo gan yr Ymddiriedolaeth GIG newydd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ni fydd gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid (CARIS), yr NPHS, Gwasanaethau Sgrinio, Canolfan Iechyd Cymru a’r Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) yn newid. Ni fydd enwau a manylion cyswllt y gwasanaethau hyn yn newid chwaith.

Gellir gweld mwy o fanylion am y newid a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru:

www.publichealthwales.org

Medi 2009 - Ym mis Chwefror 2007, rhoddodd Sgrinio Clyw Babanod Cymru broject ar waith a oedd wedi’i ariannu gan NLIAH (yr asiantaeth genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth ac arloesi mewn gofal iechyd). Y bwriad oedd datblygu rhaglen o ddysgu sydd wedi’i hachredu’n ffurfiol ar gyfer sgrinwyr clyw babanod sydd â’r potensial i ddilyn gyrfa yn y maes. [darllen mwy...]

Mawrth 2009 - pdf file NBHSW Task and Finish group report on 'Outcome Measures in Language and Communication For Early-Identified Children' (PDF file 323KB)

Ionawr 2009 - pdf file Cyhoeddi Adroddiad y Cyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer 2008 (PDF ffeil 189KB)

Mehefin 2008 - Aeth aelodau o’r tîm rheoli ar ran Sgrinio Clyw Babanod Cymru i’r gynhadledd ddiweddar ar sgrinio clyw yn Cernobbio. Daeth llawer o gynrychiolwyr rhaglenni sgrinio clyw o bob rhan o’r byd i’r gynhadledd. [darllen mwy...]

Mae’r ddogfen neu’r dogfennau ar gael mewn fformat dogfen gludadwy (PDF). Bydd angen darllenydd Adobe Acrobat (am ddim) arnoch i’w darllen.