Ynglŷn â Sgrinio Clyw Babanod Cymru
Dechreuodd y broses o sgrinio clyw babanod yng Nghymru ym mis Mawrth 2003. Ar ôl cael ei rhoi ar waith yn llawn ar draws Cymru, hon oedd y rhaglen sgrinio genedlaethol gyntaf yn y DU ar gyfer babanod newydd-anedig.
Mae’r rhaglen wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth o safon. Wrth weithredu, mae’n dilyn polisïau, safonau a phrotocolau cyffredin er mwyn gofalu bod clyw babanod yn cael ei sgrinio’n gyson ar draws Cymru gyfan. Mae’r systemau yma’n cael eu hadolygu’n rheolaidd ar sail profiad.
Cafodd y rhaglen Sgrinio Clyw Babanod Cymru ei chomisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ac mae’n perthyn i isadran Gwasanaethau Sgrinio Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
Mae’r rhaglen Sgrinio Clyw Babanod yn cael ei rheoli yng Nghymru fel rhwydwaith clinigol sy’n croesi ffiniau gwahanol gyfundrefnau a phroffesiynau. Cyfarwyddwr Cyswllt y rhaglen sy’n gyfrifol am ei rhoi ar waith ac am ei rheoli o ddydd i ddydd. Mae’r Cyfarwyddwr Cyswllt yn adrodd i Gyfarwyddwr Isadran Sgrinio Ymddiriedolaeth GIG Felindre.
Mae timau o sgrinwyr penodol yn gweithio ym mhob un o’r Ymddiriedolaethau yng Nghymru, dan reolaeth ganolog Sgrinio Clyw Babanod Cymru. Mae Rheolwr Rhaglen ym mhob Ymddiriedolaeth yn rheoli gwaith y sgrinwyr, sy’n adrodd am yr agweddau clinigol i Gydgysylltydd Rhanbarthol.