Y Canlyniadau
Sut byddaf i’n cael fy nghanlyniad?
Mae pob merch sy’n byw yng Nghymru’n cael ei chanlyniad trwy’r post. Ein nod yw rhoi’r canlyniad i chi cyn pen 4-6 wythnos i ddyddiad y prawf. Ond gall gymryd mwy o amser weithiau.
Pa mor ddibynadwy yw sgrinio serfigol?
Gall sgrinio serfigol rheolaidd rwystro hyd at 75% o ganserau rhag datblygu. Ond, fel profion sgrinio eraill, dydi’r prawf ddim yn berffaith. Dydi’r prawf ddim bob tro’n canfod y newidiadau cynnar yn y celloedd a all arwain at ganser. Mae’n bosib methu celloedd annormal yn eich sampl oherwydd:
- Gall y sawl sy’n gwneud y prawf taeniad fethu eu casglu o’ch serfics;
- Weithiau dydyn nhw’n ddim yn edrych yn wahanol iawn i gelloedd normal;
- Efallai mai ychydig iawn o gelloedd annormal sydd yn y sampl;
- Gall y sawl sy’n darllen eich sampl fethu gweld yr annormaledd (mae hyn yn digwydd weithiau, waeth pa mor brofiadol yw’r darllenydd).
Os cewch chi unrhyw symptomau anghyffredin (fel gwaedu ar ôl cyfathrach rywiol neu rhwng mislifoedd), ewch at eich doctor, hyd yn oed os cawsoch chi ganlyniad negyddol i brawf diweddar.
Beth os caf i fy ngalw’n ôl?
Gall olygu’n syml nad oedd modd darllen eich sampl yn iawn a bod angen i ni wneud prawf arall. ‘Canlyniad anfoddhaol’ yw’r enw ar hwn. Nid yw’n golygu bod unrhyw annormaledd yn y sampl. Mae tua un prawf ym mhob 25 yn anfoddhaol oherwydd:
- Efallai nad oedd digon o gelloedd o’r serfics yn y sampl i roi asesiad cywir;
- Efallai fod haint (infection) arnoch chi y bydd angen ei thrin cyn gallu cymryd sampl o safon;
- Efallai fod gwaed neu fwcws yn cuddio celloedd y serfics yn eich sampl;
- Efallai na chafodd eich sampl ei baratoi’n iawn;
- Efallai y cafodd eich sampl ei ddifrodi wrth ei gludo o un lle i’r llall.
Ar y llaw arall, gall eich canlyniad ddangos rhai mân newidiadau yng nghelloedd y serfics. Os bydd newidiadau annormal i’w gweld yno (dyscariosis yw’r enw ar hwn), byddwch chi’n cael ‘canlyniad annormal’. Mae’n bur debyg nad canser yw hwn. Ond, mewn achosion prin iawn, bydd canser i’w weld wrth archwilio canlyniad annormal yn fwy manwl.
I gael rhagor o wybodaeth am ystyr canlyniad annormal, darllenwch ein taflen, ‘Y prawf taeniad mae angen ei ail-wneud’.
Oes modd gwneud rhywbeth ynglŷn â newidiadau annormal?
Oes. Efallai y bydd gofyn i chi ddod yn ôl i gael rhagor o brofion sgrinio serfigol, oherwydd gall y celloedd annormal droi’n normal eto ar eu pen eu hunain. Ond efallai y cewch eich cyfeirio at ysbyty i gael archwiliad arall o’r enw colposgopi.
Os bydd angen triniaeth arnoch chi, mân driniaeth yw hi. Caiff ei gwneud fel arfer mewn clinig i gleifion allanol sy’n golygu na fydd rhaid i chi aros dros nos.
Gall sgrinio serfigol rhwystro canser?
Nod y rhaglen sgrinio serfigol yw rhwystro canser. Sgrinio rheolaidd bob tair blynedd yw’r ffordd orau o ganfod newidiadau yn y serfics yn gynnar, a’u rhwystro rhag datblygu’n ganser. Mae canser y serfics yn fwy cyffredin:
- os cawsoch chi gyfathrach rywiol yn ifanc;
- os ydych chi’n ysmygu;
- os nad ydych chi’n defnyddio condoms;
- os cawsoch chi sawl partner rhywiol (neu os cawsoch chi bartner rhywiol a fu â sawl partner arall);
- os ydych chi’n cymryd cyffuriau atal imiwnedd (immunosuppressant drugs) (er enghraifft, ar ôl cael triniaeth trawsblannu organ).
Os oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol i chi, mae’n bwysig iawn i chi gael prawf taeniad yn rheolaidd. Ond does dim angen i chi gael y prawf yn amlach nag unwaith bob tair blynedd. Os ydych chi’n HIV positif, y cyngor yw i chi gael prawf taeniad bob blwyddyn.
Gall canfod canser yn gynnar, a’i drin, ei rwystro rhag datblygu mewn dros 80% o achosion.
[Version wCSW13v3 - edited]