Sgrinio Serfigol – Y Ffeithiau

Beth yw sgrinio serfigol?

  • Prawf i archwilio iechyd y serfics, sef rhan isaf y groth (gwddf y groth yw’r enw arall arno) yw sgrinio serfigol. Yr enw arferol ar y prawf yw 'taeniad serfigol'.
  • Nid prawf i wneud diagnosis o ganser y serfics yw hwn. Ei nod yw rhwystro canser rhag datblygu.
  • Mae canlyniad y prawf yn dangos nad oes unrhyw annormaledd ar y rhan fwyaf o ferched. Ond, gydag un ferch ym mhob 10, mae’r canlyniad yn dangos newidiadau yn y celloedd. Mae nifer o bethau’n gallu achosi’r newidiadau yma.
  • Fydd y rhan fwyaf o’r newidiadau yma ddim yn arwain at ganser. Ond, heb eu trin, gall rhai o’r newidiadau ddatblygu’n ganser.
  • Mae sgrinio serfigol yn achub dros 1000 o fywydau bob blwyddyn yn y DU. Ond mae tua 1500 o ferched y DU yn dal i farw o ganser y serfics bob blwyddyn.

Pam fi?

Mae Sgrinio Serfigol Cymru’n gwahodd merched rhwng 20 a 64 oed sy’n byw yng Nghymru i gael prawf bob tair blynedd. Os cawsoch chi hysterectomi, neu os ydych chi dros 65 oed, efallai na fydd rhaid i chi gael y prawf. Gofynnwch i’ch doctor neu nyrs am gyngor.

Mae nifer o ferched sydd heb gael cyfathrach rywiol erioed yn ansicr a oes angen iddyn nhw gael y prawf. Efallai y byddai’n help i chi ddarllen ein taflen, 'A ddylai merched gwyryf gael prawf taeniad serfigol?'.

Beth yw Sgrinio Serfigol Cymru?

Sgrinio Serfigol Cymru sy’n gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Mae hynny’n cynnwys anfon gwahoddiadau’n awtomatig. Rydyn ni’n cymryd eich manylion o restr eich meddyg, felly mae’n bwysig bod eich enw a’ch cyfeiriad cywir gan eich meddyg bob amser. Os gwnaethoch chi ddewis cael taeniad yn breifat yn y gorffennol, mae hawl gennych chi o hyd i gael taeniad y Gwasanaeth Iechyd. Felly, byddwch chi’n dal i gael gwahoddiad pan ddaw’r adeg i chi gael eich taeniad Gwasanaeth Iechyd.

Pwy fydd yn gwneud fy mhrawf?

Doctor neu nyrs gymwys. Dywedwch wrth drefnu’r apwyntiad os byddai’n well gennych chi i ferch wneud y prawf, neu os ydych chi am fynd â rhywun gyda chi. Cewch ddewis cael y prawf yn eich meddygfa leol, neu mewn Clinig Merched Iach neu Glinig Cynllunio Teulu. Gallwch chi ddisgwyl i’r prawf fod yn hollol gyfrinachol a phreifat, a gallwch wrthod i unrhyw aelod arall o staff (hyfforddai er enghraifft) fod yno.

Fydd rhaid i mi dynnu fy nillad?

Bydd rhaid i chi dynnu’ch dillad o’ch canol i lawr ond, os gwisgwch chi sgert, efallai na fydd rhaid i chi ei thynnu.

Beth fydd yn digwydd yn ystod y prawf?

  • Bydd y sawl sy’n gwneud y prawf yn gofyn i chi orwedd ar wely arbennig.
  • Byddan nhw’n rhoi teclyn bach (sbecwlwm) yn eich gwain i’w dal ar agor.
  • Byddan nhw’n tynnu sampler yn ysgafn dros y serfics er mwyn codi rhai o’r celloedd.
  • Byddan nhw’n cadw’r celloedd yn ofalus, ac yn eu hanfon i gael eu harchwilio dan ficrosgop.
  • Ychydig o funudau’n unig mae’r prawf yn cymryd.

A yw’r prawf yn boenus?

Gallai fod braidd yn anghyfforddus neu’n boenus – ceisiwch ymlacio trwy anadlu’n ddwfn ac yn araf. Gall fod yn fwy poenus os ydych chi’n llawn tyndra. Os yw’n boenus, dywedwch yn syth wrth y meddyg neu’r nyrs – efallai y gallan nhw eich helpu chi.

Allaf i gael cyfathrach rywiol cyn y prawf?

Peidiwch â defnyddio’r rhain yn ystod y 24 awr cyn y prawf:

  • Spermleiddiad (spermicide);
  • unrhyw ddull rhwystrol (barrier method) o atal cenhedlu;
  • jel iro (lubricant jelly).

Mae’r rhain i gyd yn cynnwys rhai cemegau a allai effeithio ar y prawf.

Sut byddaf i’n cael fy nghanlyniad?

Mae pob merch sy’n byw yng Nghymru’n cael ei chanlyniad trwy’r post. Ein nod yw rhoi’r canlyniad i chi cyn pen 4-6 wythnos i ddyddiad y prawf. Ond gall gymryd mwy o amser weithiau.

Pa mor ddibynadwy yw sgrinio serfigol?

Gall sgrinio serfigol rheolaidd rwystro hyd at 75% o ganserau rhag datblygu. Ond, fel profion sgrinio eraill, dydi’r prawf ddim yn berffaith. Dydi’r prawf ddim bob tro’n canfod y newidiadau cynnar yn y celloedd a all arwain at ganser. Mae’n bosib methu celloedd annormal yn eich sampl oherwydd:

  • Weithiau dydyn nhw’n ddim yn edrych yn wahanol iawn i gelloedd normal.
  • Efallai mai ychydig iawn o gelloedd annormal sydd yn y sampl.
  • Gall y sawl sy’n darllen eich sampl fethu gweld yr annormaledd (mae hyn yn digwydd weithiau, waeth pa mor brofiadol yw’r darllenydd).

Os cewch chi unrhyw symptomau anghyffredin (fel gwaedu ar ôl cyfathrach rywiol neu rhwng mislifoedd), ewch at eich doctor, hyd yn oed os cawsoch chi ganlyniad negyddol i brawf diweddar.

Beth os caf i fy ngalw’n ôl?

Efallai ei fod yn golygu’n syml nad oedd eich sampl i’w gweld yn glir ac mae angen i ni wneud prawf arall. ‘Canlyniad anfoddhaol’ yw’r enw ar hyn. Nid yw’n golygu bod unrhyw abnormaledd yn y sampl. Mae tua 1 prawf o bob 10 yn anfoddhaol oherwydd:

  • Efallai nad oedd digon o gelloedd o’r serfics yn y sampl i roi asesiad cywir;
  • Efallai fod haint (infection) arnoch chi y bydd angen ei thrin cyn gallu cymryd sampl o safon;
  • Efallai fod gwaed neu fwcws yn cuddio celloedd y serfics yn eich sampl;
  • Efallai na chafodd eich sampl ei baratoi’n iawn;
  • Efallai y cafodd eich sampl ei ddifrodi wrth ei gludo o un lle i’r llall.

Ar y llaw arall, gall eich canlyniad ddangos rhai mân newidiadau yng nghelloedd y serfics. Os bydd newidiadau annormal i’w gweld yno (dyscariosis yw’r enw ar hwn), byddwch chi’n cael ‘canlyniad annormal’. Mae’n bur debyg nad canser yw hwn. Ond, mewn achosion prin iawn, bydd canser i’w weld wrth archwilio canlyniad annormal yn fwy manwl.

I gael rhagor o wybodaeth am ystyr canlyniad annormal, darllenwch ein taflen, 'Y Prawf Taeniad Mae Angen Ei Ail-Wneud'.

Oes modd gwneud rhywbeth ynglŷn â newidiadau annormal?

Oes. Efallai y bydd gofyn i chi ddod yn ôl i gael rhagor o brofion sgrinio serfigol, oherwydd gall y celloedd annormal droi’n normal eto ar eu pen eu hunain. Ond efallai y cewch eich cyfeirio at ysbyty i gael archwiliad arall o’r enw colposgopi.

I gael rhagor o wybodaeth am golposgopi, darllenwch ein taflen, 'Eich Apwyntiad Colposgopi'.

Os bydd angen triniaeth arnoch chi, mân driniaeth yw hi. Caiff ei gwneud fel arfer mewn clinig i gleifion allanol sy’n golygu na fydd rhaid i chi aros dros nos.

Gall sgrinio serfigol rhwystro canser?

Nod y rhaglen sgrinio serfigol yw rhwystro canser. Sgrinio rheolaidd bob tair blynedd yw’r ffordd orau o ganfod newidiadau yn y serfics yn gynnar, a’u rhwystro rhag datblygu’n ganser. Mae canser y serfics yn fwy cyffredin:

  • os cawsoch chi gyfathrach rywiol yn ifanc;
  • os ydych chi’n ysmygu;
  • os nad ydych chi’n defnyddio condoms;
  • os cawsoch chi sawl partner rhywiol (neu os cawsoch chi bartner rhywiol a fu â sawl partner arall);
  • os ydych chi’n cymryd cyffuriau atal imiwnedd (immunosuppressant drugs) (er enghraifft, ar ôl cael triniaeth trawsblannu organ).

Os oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol i chi, mae’n bwysig iawn i chi gael prawf taeniad yn rheolaidd. Ond does dim angen i chi gael y prawf yn amlach nag unwaith bob tair blynedd. Os ydych chi’n HIV positif, y cyngor yw i chi gael prawf taeniad bob blwyddyn.

Gall canfod canser yn gynnar, a’i drin, ei rwystro rhag datblygu mewn dros 80% o achosion.

Beth fydd yn digwydd i fy mhrawf ar ôl iddo gael ei archwilio?

Bydd y labordy sy’n archwilio’ch sampl yn ei gadw am o leiaf 10 mlynedd. Mae hynny’n eu galluogi i gymharu’r canlyniad diweddaraf â’r rhai a gawsoch chi o’r blaen. Pwrpas gwneud hyn yw gofalu eich bod chi’n cael unrhyw driniaeth angenrheidiol. Efallai y byddwn ni’n adolygu’r holl gofnodion sgrinio, yn cynnwys eich sampl chi, fel rhan o’n nod o gynnig gwasanaeth o safon ac i gynyddu gallu ein staff arbenigol. Pe bai proses adolygu’n dangos y dylech chi fod wedi cael math arall o ofal, bydden ni’n cysylltu â chi. Bydden ni’n cynnig gwybodaeth am adolygiad eich achos, pe baech chi am ei chael. Gallwn ni hefyd ddefnyddio’ch sampl i bwrpasau addysgu neu ymchwilio. Fyddwn ni ddim yn defnyddio’ch enw wrth wneud hyn. Os ydych chi’n anfodlon â hyn, rhowch wybod i’r sawl sy’n gwneud eich prawf taeniad.

Crynodeb

Er mwyn eich helpu chi i benderfynu a ydych chi am ddod i gael eich sgrinio ai peidio, dyma rai o brif fanteision ac anawsterau sgrinio serfigol:

  • Mae sgrinio serfigol rheolaidd yn lleihau’r perygl o adael i ganser y serfics ddatblygu.
  • Oherwydd sgrinio serfigol, mae canser y serfics bellach yn glefyd anghyffredin yn y wlad yma.
  • Cafodd yr achosion o ganser y serfics eu haneru ers yr 1980au, yn bennaf am fod y rhan fwyaf o ferched yn cael eu sgrinio’n rheolaidd.
  • Mae sgrinio serfigol gan y GIG yn achub dros 1000 o fywydau bob blwyddyn.
  • Mae rhai merched yn teimlo bod y prawf yn annymunol.
  • Gydag un o bob 40 prawf, nid yw’n bosib gweld y celloedd yn iawn dan y microsgop, a rhaid gwneud prawf arall.
  • Gall y prawf ddod o hyd i fân annormaleddau yng nghelloedd y serfics a fyddai wedi troi’n normal eto ar eu pen eu hunain. Fyddai’r merched ddim wedi gwybod am yr annormaledd oni bai am y sgrinio. Nid yw’n glir eto pa fân annormaleddau a fyddai’n datblygu’n ganser, a pha rai sy’n ddiniwed. Mae llawer o ferched yn poeni wrth gael gwybod am annormaledd.
  • Dydi sgrinio serfigol ddim yn dod o hyd i bob annormaledd yn y serfics.
  • Gall sgrinio serfigol rheolaidd rwystro tua 75% o achosion canser y serfics rhag datblygu, ond nid yw’n rhwystro pob achos. Felly, mae’n bwysig i chi roi gwybod am unrhyw symptomau anarferol i’ch meddyg teulu.

Rhagor o wybodaeth a chymorth

I gael rhagor o wybodaeth am y cofnodion rydyn ni’n eu cadw, cysylltwch â Sgrinio Serfigol Cymru i ofyn am gopi o’n taflen 'Sut Rydyn Ni’n Defnyddio Gwybodaeth Amdanoch Chi'. Os ydych chi am gynnig sylwadau neu wneud cwyn, gallwch chi gysylltu â Sgrinio Serfigol Cymru i ofyn am gopi o’n taflen 'Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau, sylwadau neu gwynion ynglŷn â Sgrinio Serfigol Cymru?'.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych chi am y gwasanaeth:

  • Holwch eich meddyg teulu.
  • Cysylltwch â’ch clinig iechyd lleol.
  • Holwch Galw Iechyd Cymru ar www.nhsdirect.wales.nhs.uk neu ffoniwch 0845 4647

[Version eCSW13v3]