Eich apwyntiad i gael colposcopi
Beth yw colposcopi?
Proses o ddefnyddio colposgop i archwilio’r serfics (gwddf y groth) yw colposgopi. Mae colposgop yn debyg i finocwlars ar stand. Nid yw’n mynd i mewn i’r corff, ond mae’n ffordd i’r meddyg neu’r nyrs weld y serfics yn fwy clir. Bydd yr archwiliad yn cael ei wneud mewn clinig colposgopi yn eich ysbyty lleol.
Mae’n ddiogel i wneud colposgopi yn ystod beichiogrwydd. Ond os oes angen i chi gael triniaeth, bydd y driniaeth yn cael ei gohirio fel arfer tan 12 wythnos ar ôl i’ch beichiogrwydd ddod i ben.
Mae’n bosib gwneud colposgopi os ydych chi’n defnyddio coil (IUD). Efallai y bydd angen tynnu’r coil yn ystod eich ymweliad, ond nid yw hynny’n debygol iawn. Dylech chi naill ai peidio â chael rhyw, neu ddefnyddio dull atal cenhedlu arall (condom er enghraifft) am o leiaf saith diwrnod cyn eich apwyntiad.
Pam bod angen apwyntiad arna’ i?
Efallai fod y canlyniad i brawf taeniad yn dangos newidiadau annormal yn y celloedd. Dyscariosis yw’r enw ar y rhain ac nid ydyn nhw’n anarferol – mae tua un o bob 10 prawf taeniad yn annormal. Gallai olygu bod ychydig o gelloedd mewn perygl o droi’n ganseraidd yn y dyfodol. Mae’n annhebygol mai canser yw’r annormaleddau yma.
Efallai fod eich tri phrawf taeniad diwethaf wedi bod yn annigonol. Nid yw hyn yn golygu bod celloedd annormal i’w gweld, ond mae’n golygu nad oedd hi’n bosib gwirio o’ch prawf taeniad a yw’r celloedd yn iach. Felly mae gofyn gwneud archwiliad arall. Mae tua un o bob 50 prawf taeniad yn annigonol.
Efallai y cawsoch chi’ch anfon i gael eich archwilio yn y clinig am eich bod yn gwaedu neu â rhedlif (discharge), er bod eich prawf taeniad yn normal.
Efallai fod eich meddyg teulu neu feddyg neu nyrs eich clinig wedi gofyn i ni archwilio’ch serfics yn fwy gofalus.
Cysylltwch â’r clinig os nad ydych chi’n gallu dod, fel bod rhywun arall yn gallu cael eich apwyntiad. Bydd angen wedyn i chi drefnu apwyntiad arall eich hun. Dylech chi ddweud wrth staff y clinig os oes gennych chi alergedd (i latecs er enghraifft) neu broblemau meddygol difrifol. Cysylltwch â’r clinig cyn dod am eich apwyntiad.
Beth fydd yn digwydd yn y clinig?
Pan ewch chi i’r clinig, ewch yn syth at y clerc neu’r derbynnydd. Bydd y clerc yn gwirio’ch manylion. Efallai na fydd gwasanaeth gofalu am blant yn y clinig. Os oes angen i chi ganslo’r apwyntiad neu newid y dyddiad, ffoniwch y rhif sydd ar y llythyr gawsoch chi gan y clinig. Mae croeso i chi fynd â ffrind neu aelod o’ch teulu gyda chi.
Os byddwch chi yng nghanol eich mislif (period) ar ddiwrnod eich apwyntiad ac mae patrwm eich mislif yn rheolaidd, ffoniwch i drefnu apwyntiad arall. Os nad yw’ch mislif yn rheolaidd neu os ydych chi’n gwaedu drwy’r amser, cadwch eich apwyntiad.
Cyn i chi gael yr archwiliad, bydd y nyrs neu’r meddyg yn eich gweld ac yn esbonio’r rheswm dros eich galw. Byddai o help iddyn nhw gael gwybod dyddiad eich mislif diwethaf.
Beth fydd yn digwydd yn ystod yr archwiliad?
Bydd angen i chi dynnu’ch dillad isaf. Bydd nyrs y clinig yn eich helpu i eistedd neu orwedd ar wely neu gadair arbennig fydd yn cynnal eich coesau. Bydd sbecwlwm (sef y math o declyn roedd eich meddyg neu nyrs yn ei ddefnyddio wrth wneud eich prawf taeniad) yn cael ei roi yn eich gwain (vagina). Efallai y byddan nhw’n gwneud prawf taeniad arall. Bydd gwahanol hylifau’n cael eu rhoi ar eich serfics i helpu i ddangos unrhyw fannau annormal. Bydd y meddyg neu’r nyrs yn defnyddio’r colposgop i edrych ar y mannau yma.
Mewn rhai clinigau byddwch chi’n gallu gwylio’ch archwiliad ar fonitor teledu. Ar ôl gofyn am eich caniatâd, mae’r colposgopydd yn gallu defnyddio’r camera i dynnu llun o’ch serfics i’w gadw gyda’ch cofnodion meddygol.
Weithiau bydd darn mân iawn o feinwe (tissue) yn cael ei dynnu o wyneb eich serfics. Biopsi yw’r enw ar hwn, a gallai achosi pigo ysgafn am rai eiliadau. Efallai bydd staff y clinig yn cynnig triniaeth i chi yn ystod eich ymweliad cyntaf. Byddan nhw’n esbonio’r driniaeth ar y pryd. Efallai y byddai’n syniad i chi fynd â rhywun gyda chi i’r clinig gan fod rhai clinigau’n gwrthod cynnig triniaeth os ydych chi wedi dod ar eich pen eich hun.
Mae archwiliad yn cymryd tua 10 neu 15 munud, ac mae triniaeth yn gallu cymryd ychydig mwy o amser. Felly gadewch ddigon o amser ar gyfer yr ymweliad cyfan.
Beth allai’r colposgopi ei ddangos i chi?
Efallai bydd y meddyg neu’r nyrs yn gallu dweud wrthych chi yn ystod yr archwiliad beth sydd o’i le a pha driniaeth rydych chi ei hangen, os oes angen unrhyw driniaeth o gwbl. Yn aml bydd angen iddyn nhw aros am ganlyniadau unrhyw brofion.
Beth fydd cael triniaeth yn ei olygu?
Mae LLETZ (sydd weithiau’n cael ei alw’n DLE, DLB neu biopsi dolen) yn golygu defnyddio dolen fach o wifren i dynnu’r celloedd annormal. Weithiau bydd y driniaeth yma’n cael ei gwneud yn ystod yr ymweliad cyntaf.
Mae triniaeth laser yn defnyddio pelydryn o olau i ddinistrio celloedd annormal.
Mae ceulad oer (cold coagulation), cryoseriad (cryocautery) a diathermedd (diathermy) yn golygu defnyddio stiliwr (probe) ar y serfics i ddinistrio celloedd annormal.
Mae’r holl driniaethau yma’n cael eu gwneud yn y clinig fel arfer. Efallai y byddwch chi’n cael anesthetig lleol sy’n lladd y teimlad yn eich serfics.
Mae angen biopsi côn ar rai menywod. Mae hwn yn golygu tynnu darn bach o’r serfics, ac mae angen anesthetig cyffredinol fel arfer (byddech chi’n cysgu yn ystod y driniaeth).
Os byddwch chi angen cael triniaeth, bydd y meddyg neu’r nyrs yn cynnig y driniaeth sydd orau i chi.
Pwy sydd angen cael triniaeth?
Os bydd eich canlyniadau’n dangos neoplasia mewnepithelaidd serfigol (cervical intra-epithelial neoplasia neu CIN) sydd weithiau’n cael ei alw’n gelloedd cyn-ganseraidd, efallai y byddwch chi’n cael eich cynghori i gael triniaeth.
Mae tri math o CIN: CIN1, CIN2 a CIN3. Newid mân iawn yn y celloedd yw CIN1. Mae’r math yma’n aml yn troi’n normal eto ohono'i hun, heb orfod cael triniaeth. Mae mwy o newidiadau gyda CIN2 a CIN3, ac mae angen triniaeth i rwystro canser rhag datblygu yng ngwddf y groth yn y dyfodol. Mae’r rhain yn llai tebygol o droi’n normal eto ar eu pen eu hunain. Bydd eich meddyg neu nyrs yn eich cynghori a oes angen triniaeth neu beidio.
A yw’r driniaeth yn gweithio?
Mae triniaeth yn llwyddo mewn bron i 100% o achosion. Ond efallai y bydd angen mwy o driniaeth ar nifer fach o fenywod a gafodd driniaeth. Oherwydd hyn, mae’n bwysig iawn i chi gael archwiliadau dilynol rheolaidd.
Ar ôl yr archwiliad
Ar ôl archwiliad colposgopi dylech chi deimlo’n ddigon da i fynd ymlaen â’ch gweithgareddau arferol. Ond, os cawsoch chi driniaeth, efallai y byddwch chi am gymryd pethau’n dawel am weddill y diwrnod. Os ydych chi’n teimlo’n wael neu’n anhwylus ar ôl yr ymweliad, ddylech chi ddim gyrru car nes eich bod yn teimlo’n well.
Os cafodd biopsi ei gymryd, efallai y byddwch chi’n sylwi ar redlif gwaedlyd am rai dyddiau. I atal haint (infection), gwisgwch dyweli mislif yn hytrach na thamponau. Dylech chi osgoi rhyw am tua saith diwrnod.
Os ydych chi wedi cael triniaeth, bydd angen i chi osgoi rhyw a pheidio â defnyddio tamponau am bedair wythnos. Dylech chi osgoi nofio hefyd hyd nes y bydd y rhedlif wedi stopio.
Os byddwch chi’n gweld eich bod chi’n gwaedu’n drwm neu’n sylwi ar redlif trwm neu boen ddrwg iawn, cysylltwch â’r clinig. Dilynwch gyngor y clinig colposgopi os ydych chi’n ceisio cysylltu tu allan i’r oriau agor. Cyn gadael y clinig, gofalwch eich bod chi’n gwybod sut a phryd y byddwch chi’n cael y canlyniadau, a phwy i’w ffonio os oes gennych chi gwestiynau neu broblemau.
Fydd angen i mi gael archwiliadau dilynol?
Bydd hyn yn dibynnu a oedd eich prawf taeniad yn annormal, beth oedd i’w weld ar unrhyw biopsi, ac a oes angen unrhyw driniaeth arnoch chi.
Bydd eich colposgopydd yn esbonio unrhyw driniaeth ddilynol y byddwch chi ei hangen, naill ai yn ystod eich apwyntiad neu mewn llythyr pan fydd eich canlyniadau ar gael.
Fe wnes i fethu fy apwyntiad – beth fydd yn digwydd?
Mae’n bwysig i chi gael eich gweld yn y clinig. Os nad ydych chi’n gallu dod, cysylltwch â’r clinig neu’ch meddyg i drefnu apwyntiad arall. Os nad ydych chi wedi rhoi gwybod i’r clinig, byddwch chi’n cael un apwyntiad arall. Os na fyddwch chi’n dod i’r ail apwyntiad, fyddwch chi DDIM yn cael apwyntiad arall.
Os byddwch chi’n methu dau apwyntiad ac yn methu cysylltu â’r clinig, bydd Cyd-drefnydd Nyrsio eich ardal yn cysylltu â chi ac yn rhoi gwybod i’ch meddyg teulu. Gall eich meddyg teulu neu’r Cyd-drefnydd Nyrsio eich cyfeirio unwaith eto ar unrhyw adeg.
Mwy o gwestiynau?
Os oes gennych chi fwy o gwestiynau ynglŷn â sgrinio, cysylltwch â’ch meddyg teulu, nyrs y practis neu staff y clinig cymunedol. Neu ysgrifennwch at:
Y Cyfarwyddwr
Sgrinio Serfigol Cymru
18 Heol yr Eglwys Gadeiriol
Caerdydd
CF11 9LJ
[Version wCSW09v4]