Y Clinig Colposgopi
Beth yw colposcopi?
Archwiliad o’r serfics yw colposcopi. Mae darn o offer o’r enw colposcop yn cael ei ddefnyddio i wneud yr archwiliad. Mae’n edrych fel binocwlars ar stand. Dydi’r colposcop ddim yn mynd y tu mewn i chi, ond mae’r doctor neu’r nyrs yn ei ddefnyddio i weld eich serfics yn iawn. Fe fydd yr archwiliad yn cael ei wneud mewn clinig i gleifion allanol.
Does dim cyfleusterau gwarchod plant yn y clinig. Os hoffech chi aildrefnu’ch apwyntiad, cysylltwch ag ysgrifennydd y clinig.
Pam mae’n rhaid i mi gael apwyntiad?
Fe fydd y rhan fwyaf o ferched sy’n cael eu galw i’r clinig wedi cael canlyniad annormal i brawf taeniad serfigol. Mae canlyniad annormal yn dangos newidiadau (o’r enw dyscariosis) yn y celloedd. Efallai mai mân newidiadau dibwys ydyn nhw sy’n golygu bod yna haint (infection) neu lid (inflammation) o’r serfics. Ond, os ydyn nhw’n cael eu gadael, mae’n bosib i rai celloedd fynd yn ganseraidd yn hwyr yn eich oes.
Mae’n bosib fod rhai o’r merched yma wedi cael canlyniadau annigonol i brofion taeniad yn y gorffennol.
Weithiau, fe fydd eich meddyg teulu neu ddoctor y clinig ai nyrs yn gofyn i ni archwilio eich serfics yn fwy manwl.
Beth fydd yn digwydd yn y clinig?
Ar ôl cyrraedd, ewch at y clerc neu’r derbynnydd. Fe fydd ef neu hi’n gwirio’ch manylion chi. Wedyn, fe fydd naill ai’r nyrs neu’r doctor yn egluro canlyniad y prawf taeniad i chi.
Fe allai fod yn help os ydych chi’n gwybod dyddiad eich mislif diwethaf.
Os ydych chi’n feichiog, dywedwch hynny wrth y nyrs neu’r doctor. Er ei bod hi’n ddiogel gwneud colposcopi yn ystod beichiogrwydd, efallai y bydd rhaid addasu’r archwiliad ychydig.
Ar ôl tynnu’ch dillad isaf, fe fyddwch chi’n eistedd ar gadair arbennig sy’n cynnal eich coesau. Fe fydd y doctor neu’r nyrs yn rhoi sbeciwlwm (fel yr un gafodd ei ddefnyddio wrth wneud prawf taeniad serfigol) yn eich gwain (vagina). Mae’n bosib y byddan nhw’n gwneud prawf taeniad arall. Fe fyddan nhw’n rhoi gwahanol hylifau (liquids) ar wddf eich serfics. Mae’r hylifau’n helpu i ddangos unrhyw fannau annormal. Fe fydd y doctor neu’r nyrs yn archwilio’r mannau yma trwy’r colposcop. Efallai y bydd yn cymryd darn bach o gnawd o wyneben eich serfics. Biopsi yw’r enw ar y broses yma. Fe allech chi deimlo ychydig o boen ysgafn, ond does dim angen anaesthetig.
Mewn rhai clinigau, fe fyddwch chi’n cael gwylio’r archwiliad ar fonitor teledu.
Beth allwch chi’i weld o’r colposcopi?
Fe allai’r doctor neu’r nyrs ddweud wrthych chi beth sy’n bod. Fe allai hefyd egluro a oes angen triniaeth arnoch chi, a pha fath o driniaeth. Ond, yn aml, fe fydd rhaid aros am ganlyniadau’r profion. Fe fydd rhai clinigau’n cynnig triniaeth yn y fan a’r lle, os yw’r serfics yn edrych yn annormal. Yn yr achos yma, fe gewch chi drin y serfics â thechneg biopsi o’r enw LLETZ (toriad dolen diathermedd) gan ddefnyddio anaesthetig lleol. (Does dim rhaid i chi fod yn cysgu).
Os cawsoch chi ganlyniadau annigonol i brofion taeniad, neu os cawsoch chi’ch cyfeirio at y clinig colposcopi i edrych ar gyflwr eich serfics, yna fe allai’r doctor neu’r nyrs ddweud wrthych chi a yw eich serfics yn iach. Ond, yn aml, fe fydd rhaid aros am ganlyniadau’r profion.
Beth sy’n dweud wrthych chi fod angen triniaeth arna i?
Mae hynny’n dibynnu ar:
- y rheswm dros wneud colposcopi
- canlyniadau’r profion
- cyflwr eich serfics.
Os yw’r canlyniadau’n dangos does yna ddim annormaledd, neu mai mân newidiadau dibwys sydd yno, yna fe fydd angen profion taeniad arnoch chi yn y dyfodol. Fe fydd dyddiad y prawf taeniad nesa’n dibynnu ar ganlyniadau’ch profion blaenorol. Os yw’r canlyniadau’n dangos fod yna gelloedd CIN (neoplasia mewnepithelaidd serfigol, sydd hefyd yn cael eu galw’n gelloedd cyn-ganseraidd) yn bresennol, yna fe fyddwn ni’n eich cynghori chi i gael triniaeth er mwyn atal canser rhag ddatblygu yn y dyfodol.
Fe fydd staff y clinig yn dweud wrthych chi pa driniaeth sy’n fwyaf addas i chi.
Ar ôl yr archwiliad
Os cawsoch chi biopsi, fe allech chi sylwi ar redlif (discharge) gwaedlyd am rai dyddiau. Er mwyn osgoi cael haint, defnyddiwch dyweli mislif yn hytrach na thamponau. Fe ddylech chi osgoi cael cyfathrach rywiol am o leiaf 24 awr.
Os cawsoch chi driniaeth yn ystod eich ymweliad cyntaf â’r clinig, yna fe ddylech chi osgoi cyfathrach rywiol am fis. Peidiwch â mynd i nofio tan fydd y rhedlif wedi stopio.
Os byddwch chi’n sylwi ar un o’r pethau yma:
- gwaedu trwm
- rhedlif o’r wain
- poen difrifol
yna cysylltwch â’r clinig yn syth. Y tu allan i oriau’r clinig, cysylltwch â’ch meddyg teulu. Cyn gadael y clinig, gofalwch eich bod chi’n gwybod yn union sut a phryd fyddwch chi’n cael canlyniadau’r profion. Gwnewch nodyn o’r rhifau ffôn i’w defnyddio os bydd cwestiwn neu broblem gennych chi.
Mae’n rhaid i mi ganslo fy apwyntiad – beth ddylwn i ei wneud?
Ffoniwch y rhif ar y llythyr gawsoch chi gan y clinig, er mwyn i ni drefnu apwyntiad arall i chi. Os ydych chi’n meddwl y bydd mislif arnoch chi, ac mae’ch mislif chi’n rheolaidd, yna trefnwch apwyntiad arall. Os yw’ch mislif chi’n afreolaidd, neu os ydych chi’n gwaedu trwy’r amser, cadwch yr apwyntiad.
Fe wnes i fethu’r apwyntiad – beth fydd yn digwydd yn awr?
Mae’n bwysig eich bod chi’n dod i’r clinig i gael eich gweld. Os dydych chi ddim wedi rhoi gwybod i’r clinig, fe fyddwn ni’n anfon un apwyntiad arall. Os byddwch chi’n methu’r apwyntiad hwnnw, fyddwn ni DDIM yn anfon un arall.
Fe fydd y Cyd-drefnydd Nyrsio lleol yn cysylltu â chi ac fe fyddwn ni’n rhoi gwybod i’ch meddyg teulu. Fe fydd yn bosib i’ch Cyd-drefnydd Nyrsio neu’ch meddyg teulu eich cyfeirio’n ôl ar unrhyw adeg.
[Version wCSW09v2 - edited]