Canser Gwddf Y Groth
Gall sgrinio serfigol rhwystro canser?
Nod y rhaglen sgrinio serfigol yw rhwystro canser. Sgrinio rheolaidd bob tair blynedd yw’r ffordd orau o ganfod newidiadau yn y serfics yn gynnar, a’u rhwystro rhag datblygu’n ganser.
Mae canser y serfics yn fwy cyffredin:
- os cawsoch chi gyfathrach rywiol yn ifanc;
- os ydych chi’n ysmygu;
- os nad ydych chi’n defnyddio condoms;
- os cawsoch chi sawl partner rhywiol (neu os cawsoch chi bartner rhywiol a fu â sawl partner arall);
- os ydych chi’n cymryd cyffuriau atal imiwnedd (immunosuppressant drugs) (er enghraifft, ar ôl cael triniaeth trawsblannu organ).
Os oes unrhyw un o’r rhain yn berthnasol i chi, mae’n bwysig iawn i chi gael prawf taeniad yn rheolaidd. Ond does dim angen i chi gael y prawf yn amlach nag unwaith bob tair blynedd. Os ydych chi’n HIV positif, y cyngor yw i chi gael prawf taeniad bob blwyddyn.
Gall canfod canser yn gynnar, a’i drin, ei rwystro rhag datblygu mewn dros 80% o achosion.
[Version wCSW13v3 - edited]