Ynglyn Sgrinio Serfigol Cymru
Sgrinio Serfigol Cymru sy’n gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru. Mae hynny’n cynnwys anfon gwahoddiadau’n awtomatig. Rydyn ni’n cymryd eich manylion o restr eich meddyg, felly mae’n bwysig bod eich enw a’ch cyfeiriad cywir gan eich meddyg bob amser. Os gwnaethoch chi ddewis cael taeniad yn breifat yn y gorffennol, mae hawl gennych chi o hyd i gael taeniad y Gwasanaeth Iechyd. Felly, byddwch chi’n dal i gael gwahoddiad pan ddaw’r adeg i chi gael eich taeniad Gwasanaeth Iechyd.
Amcanion y Rhaglen Sgrinio Serfigol
Amcan y rhaglen sgrinio serfigol yw gostwng nifer yr achosion o ganser serfigol ymosodol, a morbidrwydd a marwolaethau o ganlyniad i hyn. Fodd bynnag, mae gan sgrinio’r potensial hefyd i achosi niwed corfforol a seicolegol i ferched a wahoddir. Mae’n hanfodol bod y niwed hwn yn cael ei leihau i’r eithaf, fel bod manteision sgrinio yn fwy na’r costau. Rhaid cael cydbwysedd rhwng cynyddu effeithlonrwydd i’r eithaf a lleihau niwed i’r eithaf.
Y Boblogaeth sy'n Gymwys
Y grwp oed targed ar gyfer sgrinio serfigol yw merched rhwng 20 a 64 oed.
Negeseuon allweddol i ferched
- Nid yw sgrinio serfigol yn brawf am ganser. Mae’n canfod anormaleddau posibl, neu newidiadau yn y celloedd, a allai ddatblygu’n ganser os na chânt eu trin.
- Caiff bron i bob un o’r anormaleddau eu trin yn llwyddiannus.
- Mae archwilio profion taeniad serfigol yn broses tra medrus. Fel gyda’r mwyafrif o brofion meddygol, nid yw’r prawf yn 100% cywir. Fodd bynnag, mae cael prawf taeniad rheolaidd yn golygu fod annormaledd yn llai tebygol o barhau heb ei ddarganfod.
- Mae mwyafrif y canlyniadau yn normal. Mae hyn yn golygu na chafodd unrhyw gelloedd annormal eu darganfod. Nid oes angen unrhyw archwiliadau pellach, ond dylech barhau i fynychu profion taeniad arferol pan anfonir gwahoddiad atoch.
- Mae canlyniad prawf taeniad normal yn golygu na chafodd unrhyw anormaleddau eu darganfod ar yr adeg hon, ond ni ellir gwarantu nad oes anormaleddau yn bodoli.
- Os ydych yn cael gwaedlif neu redlif anarferol ar unrhyw adeg, rhowch wybod i’ch meddyg, hyd yn oed os ydych wedi cael prawf taeniad negyddol diweddar.
Milestones in cervical screening (PDF ffeil 48KB)