Pwy sy’n cael eu sgrinio?
- Mae pob merch 50 oed a hyn yn gymwys i gael sgrinio’r fron.
- Mae merched 50 i 70 oed yn cael eu gwahodd yn awtomatig. The upper age was increased from 64 in early 2006.
- Gall merched fod hyd at 52 oed cyn cael eu hapwyntiad cynta.
- Nod Bron Brawf Cymru yw cynnig sgrinio bob tair blynedd.
- Bydd merched dros 70 oed yn cael eu sgrinio os gwnân nhw ofyn, a hynny dim amlach nag unwaith bob tair blynedd.
Rydyn ni'n defnyddio rhestri cleifion meddygon teulu i adnabod merched, felly mae'n bwysig bod eich enw a'ch cyfeiriad cywir gan eich doctor bob amser. [nodwch pwy sy’n gymwys i gael eu sgrinio]
Rydyn ni'n gwahodd merched o bractis pob doctor yn ei dro. Fyddwch chi ddim o angenrheidrwydd yn cael eich gwahoddiad y flwyddyn y byddwch chi'n cyrraedd 50. Cyn belled â'ch bod chi wedi'ch cofrestru â doctor, fe fyddwn ni'n eich galw chi i gael sgrinio'ch bronnau cyn eich pen-blwydd yn 53. [darllen mwy am y grwp oed sy’n cael sgrinio]
Gall merched dros 70 oed ofyn i ni am apwyntiad bob tair blynedd drwy gysylltu â chanolfan sgrinio Bron Brawf Cymru yn eu hardal.
Bydd Bron Brawf Cymru’n dal i wahodd merched rhwng 50 a 70 oed sy'n cael triniaeth ddilynol mewn clinig y fron mewn ysbyty, oni bai eu bod nhw'n gofyn i ni beidio â'u gwahodd.
Fe allwn ni hefyd wahodd merched a gafodd mastectomi ar y ddwy fron (codi'r ddwy fron) os na chawson ni wybod am y driniaeth ganddyn nhw neu gan eu meddyg teulu.
Does dim tystiolaeth eto i brofi bod cynnig sgrinio arferol ar y fron i ferched dan 50 oed, sydd heb symptomau, yn gostwng y nifer sy'n marw o ganser y fron. Fe allai hynny fod o fudd i ferched sydd mewn mwy o risg oherwydd hanes o ganser y fron yn y teulu. [darllen mwy am sgrinio oherwydd hanes teuluol]
Y Boblogaeth Gymwys
Mae pob merch 50 a hyn yn gymwys i gael sgrinio’r fron unwaith bob tair blynedd. Pan fydd pobl yn cofrestru gyda meddygon teulu, mae eu henwau, eu cyfeiriadau, eu dyddiad geni a rhai manylion eraill yn cael eu cofnodi’n ganolog ar gronfa ddata cyfrifiadur. Rydyn ni’n defnyddio’r gronfa ddata yma i adnabod merched o’r oedran cywir (50 – 70 oed ar hyn o bryd) i’w gwahodd nhw i gael sgrinio’u bronnau. Fel yn y rhan fwyaf o’r DU, mae Bron Brawf Cymru’n gwahodd practis pob meddyg teulu yn ei dro, unwaith mewn cyfnod o dair blynedd. Fe gaiff pob merch ei gwahoddiad cynta cyn ei phen-blwydd yn 53 (ond nid o angenrheidrwydd y flwyddyn y caiff ei phen-blwydd yn 50). Fe allai rhai merched ddewis peidio â chymryd rhan yn y rhaglen. Cyn belled â bod y merched yma’n sgrifennu aton ni i ddweud hynny, byddwn ni’n cofnodi hynny yn eu cofnodion er mwyn peidio â’u gwahodd nhw eto, oni bai eu bod nhw’n ailfeddwl. Byddwn ni’n defnyddio’r un gronfa ddata ar gyfer merched hyn sy'n gofyn am gael eu sgrinio.



