Pan fo angen i chi gael mwy o brofion
Nid canser yw’r rhan fwyaf o newidiadau sydd i’w gweld ar famogram. Nid oes canser y fron ar y rhan fwyaf o’r merched rydyn ni’n eu galw’n ôl.
Weithiau, bydd angen i ni alw merched yn ôl am fod nam technegol wedi digwydd. Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi os dyma'r rheswm dros eich galw.
Byddwn ni'n galw'n ôl tua un mewn 20 o'r merched rydyn ni'n eu sgrinio am fod ymddangosiad y pelydr-x yn awgrymu bod gofyn gwneud mwy o brofion. Fe allai'r profion yma gynnwys mwy o famogramau, archwiliad clinigol, sgan uwchsain ac, o bosib, biopsi nodwydd.
Beth os bydd angen triniaeth arna i?
Os cewch chi ddiagnosis o ganser y fron, dod o hyd iddo'n gynnar sy'n cynnig y cyfle gorau i'w drin yn llwyddiannus. Byddwn ni'n trafod yr holl opsiynau'n llawn gyda chi a chytuno ar drefniadau'ch triniaeth.



