Oes symptomau arnoch chi?
Gall nifer o bethau achosi newidiadau i’r fron. Mae’r rhan fwyaf yn ddiniwed ond mae gofyn gwirio pob un am fod siawns isel mai arwyddion cynnar canser ydyn nhw.
Cofiwch dydych chi ddim yn gwastraffu amser unrhyw un. Os daw unrhyw ganser sydd yno i’r amlwg yn gynnar, mae’n debyg y bydd triniaeth yn symlach.
Beth i chwilio amdano
Lympiau
- Unrhyw lympiau, mannau trwchus neu fannau anwastad yn y fron neu’r gesail (armpit) sy’n wahanol i beth sy’n normal i chi.
Golwg
- Unrhyw newid yn amlinelliad neu siâp y fron. Unrhyw grychau neu bantiau yn y croen.
Newidiadau i’r tethi
- Rhedlif (discharge) o’r deth (nipple) sy’n newydd ac sydd ddim yn llaethog. Mannau sy’n gwaedu sydd ddim yn gwella’n gyflym, neu fannau coch. Unrhyw newid yn safle’r deth – wedi’i thynnu i mewn neu’n gorwedd yn wahanol. Brech (rash) ar y deth neu o’i chwmpas.
Teimladau
- Teimlad o anesmwythdra neu boen sy’n wahanol i’r arfer, yn arbennig os dydych chi ddim wedi cael y boen o’r blaen, a dydi’r boen ddim yn mynd.
Alla i ddal i gael fy sgrinio?
Mae sgrinio’r fron wedi’i fwriadu i ferched sydd heb symptomau canser y fron ac mae’n bosib nad dyma’r prawf mwyaf addas i chi. Os ydych chi’n poeni am unrhyw broblem ar eich bronnau, ddylech chi ddim aros i gael eich sgrinio. Ewch i siarad â’ch doctor. Fe allai'ch cyfeirio chi at glinig y fron mewn ysbyty sy’n cynnig nifer o wahanol brofion.
Ond os ydyn ni wedi anfon apwyntiad atoch chi’n barod, fe wnawn ni eich sgrinio chi. Dywedwch wrth y radiograffydd am eich symptomau.



