Gwybodaeth am Sgrinio
Proffesiynau o fewn Sgrinio’r Fron
Radiograffwyr sy’n tynnu’r mamogramau. Fel arfer, y radiograffydd fydd y cyswllt cyntaf yn y gwasanaeth i ferched, ac wrth bod y rhan fwyaf o’r sgrinio’n digwydd mewn unedau symudol, mae’n debygol mai hi fydd yr unig gyswllt. Mae’r radiograffwyr yn cynhyrchu mamogramau sy’n gyson o ansawdd uchel ac yna maen nhw’n rhoi’r wybodaeth briodol i’r merched sy’n cael eu sgrinio. Mae’n bosib y bydd ganddyn nhw rolau ychwanegol hefyd, fel darllen mamogramau a chymryd biopsïau nodwydd.
Mae gan Gynorthwywyr Radiograffwyr nifer o sgiliau. Maen nhw’n prosesu, dangos a ffeilio’r mamogramau ac yn cefnogi staff meddygol, radiograffwyr a nyrsys yn y clinigau.
Mae ffisegwyr meddygol yn monitro perfformiad y cyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio i wneud mamogramau ac maen nhw’n rhoi cyngor ar faterion technegol.
Mae Nyrsys gofal y fron yn cefnogi a chynghori merched drwy’r cyfnod asesu, ac wedi hynny, yn Bron Brawf Cymru ac yn y gymuned.
Mae Staff gweinyddol yn gofalu am y system gyfrifiadurol sy’n cael ei defnyddio i drefnu apwyntiadau, galw merched i gael eu sgrinio ac anfon canlyniadau atyn nhw. Maen nhw hefyd yn ateb ymholiadau ffôn ac yn gweithio mewn derbynfeydd yn y Canolfannau.
Mae Ysgrifenyddion yn rhoi help i staff eraill.
Mae Ysgrifenyddion meddygol hefyd yn cysylltu â chlinigau asesu, yn trefnu i ferched fynd i’r ysbyty a gofalu am gofnodion meddygol.
Mae Swyddogion hyrwyddo sgrinio yn defnyddio sgiliau hybu iechyd a sgiliau cyfathrebu i ddarparu gwybodaeth i ferched cymwys, aelodau eraill y cyhoedd, timau gofal iechyd sylfaenol a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill.
Timau Meddygol
Mae Radiolegwyr yn darllen y mamogramau er mwyn dod o hyd i ganserau posib. Rhaid iddyn nhw ofalu nad ydyn nhw’n methu dod o hyd i ganserau, ond rhaid iddyn nhw hefyd ofalu’u bod nhw’n galw’n ôl cyn lleied â phosib o ferched sydd heb ganser. Wrth asesu efallai y byddan nhw am gymryd rhagor o famogramau, cymryd delweddau uwchsain a sbesimenau o namau posib drwy fiopsi nodwydd. Maen nhw’n arwain cyfarfodydd y tîm amlddisgyblaethol sy’n adolygu pob achos.
Llawfeddygon sy’n cynnal archwiliadau clinigol ar ferched yn ystod yr asesiad ac fe allen nhw o bosib gymryd biopsi nodwydd hefyd. Maen nhw’n rhoi canlyniadau’r asesiad i’r ferch gyda nyrsys gofal y fron. Os bydd angen, maen nhw’n trefnu i’r ferch gael biopsi llawfeddygol ac yn gwneud y driniaeth. Os bydd y ferch angen triniaeth, maen nhw’n rhoi cyngor iddi ynglyn â’r opsiynau trin sydd ar gael. Fe allai merched ddewis cael eu trin gan yr un llawfeddyg neu ofyn am gael eu cyfeirio at lawfeddyg arall.
Mae Patholegwyr yn cynnal profion ar sbesimenau biopsi. Fe gaiff canlyniadau’r profion yma’u defnyddio i helpu i wneud diagnosis pendant.
Mae Ffisigwyr y fron wedi’u hyfforddi’n benodol i gynnal nifer o’r rolau radioleg a/neu lawfeddygol. Mae’r staff meddygol yn defnyddio dull amlddisgyblaethol wrth wneud diagnosis. Dim ond ar ôl i bob aelod o’r tîm amlddisgyblaethol gytuno y dylid penderfynu’n derfynol a oes canser ar y ferch ai peidio.
Y Tim Gwybodaeth
Mae’r Tîm Gwybodaeth yn gofalu am ddadansoddi gwybodaeth ac am dechnoleg gwybodaeth (TG). Mae’r gwaith yn cynnwys:
- dadansoddi a pharatoi adroddiadau er mwyn monitro, sicrhau ansawdd, mesur gwerth a chefnogi’r gwaith o gynllunio’r Gwasanaethau Sgrinio (sydd erbyn hyn yn cynnwys sgrinio’r fron, sgrinio serfigol, sgrinio clyw babanod a sgrinio cyn geni)
- cefnogaeth TG a datblygu meddalwedd ar gyfer mwy na 20 safle sgrinio yng Nghymru
- gwybodaeth sy’n cefnogi Llywodraethu ar gyfer Gwasanaethau Sgrinio; polisïau a gweithdrefnau ar gyfer diogelu data, cyfrinachedd, cael gwybodaeth a rhyddid gwybodaeth
- gwefannau Gwasanaethau Sgrinio.
Y Tîm Corfforaethol
Mae’r timau gweinyddol a chyllidol yn gweithio ar draws y Gwasanaethau Sgrinio er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn cyflawni ei anghenion o ran rheolaeth strategol, llywodraethu clinigol, rheoli risg a rheolaeth ariannol.



