• pwy sy’n cael eu sgrinio?
  • trefnu apwyntiad
  • pan fo angen i chi gael mwy o brofion
  • oes symptomau arnoch chi?
Google custom search Public Health Wales - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Information for Local Health Boards

Rhwydweithio ar draws Cymru

Ers ei sefydlu, mae Bron Brawf Cymru wedi gwasanaethu Cymru gyfan. Mae wedi’i rannu’n dri Rhanbarth (De-ddwyrain, Gorllewin a Gogledd), gyda’r tri’n anelu at wahodd pob menyw gymwys sy’n byw yn yr ardal bob tair blynedd. Sefydlwyd Bron Brawf Cymru yn 1989, cyn i’r Ymddiriedolaethau GIG a’r Byrddau Iechyd Lleol ddod i rym.

Er mwyn gofalu bod y gwasanaeth yn addas i anghenion menywod Cymru, fe gafodd Grŵp Ymgynghorol Cymru ar Sgrinio’r Fron ei sefydlu gan y Swyddfa Gymreig (ar y pryd) i gynghori ar ddatblygu’r gwasanaeth. Mae Bron Brawf Cymru’n dal i weithredu’r gwasanaeth yn ôl y cyngor hwnnw.

Gwasanaeth sy’n cael ei reoli’n uniongyrchol ar gyfer Cymru gyfan yw Bron Brawf Cymru, dan gomisiwn gan Gomisiwn Iechyd Cymru. Mae sgrinio’n cael ei drefnu o ganolfannau yng Nghaerdydd, Abertawe a Llandudno (sydd ag is-ganolfan yn Wrecsam). Mae deg uned symudol yn cynorthwyo gwaith y canolfannau er mwyn gwneud y gwasanaeth yn hawdd mynd ato o gofio mai poblogaeth denau sydd yn llawer o ardaloedd Cymru. Mae tua 90% o fenywod yn cael eu sgrinio ar yr unedau symudol.

Os oes ymddangosiad a allai fod yn ganser i’w weld ar y mamogramau, mae timau asesu amlddisgyblaethol medrus Bron Brawf Cymru’n mynd ati i wneud mwy o brofion yn y canolfannau sgrinio. (Dilynwch y ddolen i gael gwybod mwy am y rhain.) Mae arbenigwr ym maes llawdriniaeth y fron yn perthyn i bob un o’r timau hyn, dan gontract o un o ysbytai’r Rhanbarth. Fel hyn, mae menywod sydd angen triniaeth ar ôl cael diagnosis o ganser y fron yn cael eu cyfeirio’n uniongyrchol at y gwasanaethau symptomatig. Gallan nhw ddewis aros gyda’u tîm asesu neu gael triniaeth gan lawfeddyg arall. Os ydyn nhw’n aros gyda’u llawfeddyg asesu, mae’n bosib trefnu’n uniongyrchol iddyn nhw gael eu derbyn i ysbyty heb orfod mynd i glinig y fron yr ysbyty.

Erbyn hyn, mae gan Bron Brawf Cymru 14 o dimau amlddisgyblaethol sy’n cynnig clinigau asesu a chyswllt uniongyrchol â’r gwasanaethau trin mewn deg ysbyty ar draws Cymru. Y gwasanaeth sgrinio sydd bellach yn rhoi diagnosis ar gyfer dros un o bob tri achos o ganser y fron.

Y drefn sgrinio

Fe gafodd y drefn o sgrinio practis pob un o feddygon teulu Cymru ei sefydlu yn ystod y blynyddoedd 1989-1996. Roedd nifer o bethau’n dylanwadu ar y drefn, fel:

  • gofalu bod timau amlddisgyblaethol ar gael. Fe gymerodd hynny ychydig o amser i’w drefnu;
  • sefydlu canolfannau sefydlog a phrynu unedau symudol;
  • ystyriaethau daearyddol – os yw’n bosib, ceisio osgoi’r ardaloedd pell iawn yn y gaeaf a’r trefi gwyliau yn yr haf;
  • y broses o roi’r rhaglen ar waith yn Lloegr, yn arbennig yn y mannau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Dechreuodd y rownd gyntaf o sgrinio’r fron yng Nghymru ym mis Chwefror 1989 wrth i fenywod gael eu gwahodd i’r ganolfan ar Heol yr Eglwys Gadeiriol yng Nghaerdydd. Daeth yr uned symudol gyntaf yn weithredol ym mis Hydref 1989 gan fynd i safleoedd yn Nhaf-Elai a’r Rhondda. Agorodd canolfan Llandudno ym mis Hydref 1991 gan ddechrau sgrinio yn yr ardal honno. Agorodd canolfan Abertawe ym mis Ionawr 1992 gan ddechrau sgrinio yn yr ardal honno. Dechreuodd sgrinio symudol yn y Gogledd (Llanrwst) a’r Gorllewin (Cross Hands) yn 1992.

Gwnaethpwyd rhai mân newidiadau i’r drefn sgrinio er mwyn gofalu bod llwyth gwaith pob un o’r gwahanol dimau amlddisgyblaethol yn wastad. Ond dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y mae modd gwneud newidiadau gan fod diwygio’r rhaglen yn siŵr o gynyddu’r bwlch rhwng sgriniau rhai menywod. Yn gyffredinol, rhaid cadw at y patrwm a gafodd ei sefydlu yn y blynyddoedd cynnar.

Ond mae’r drefn hon yn gwneud llif y gwaith yn ystod y rownd sgrinio o dair blynedd yn anwastad o fewn ardaloedd y gwahanol Fyrddau Iechyd a dalgylchoedd y gwahanol Ymddiriedolaethau, wrth i’r unedau symudol symud o gwmpas Cymru. Gall ddigwydd fod dwy neu fwy o’r unedau symudol yn gweithio’n weddol agos at ei gilydd ar yr un pryd. Ac mae adegau eraill pan nad oes unrhyw sgrinio o gwbl yn digwydd mewn ardal.

Mae Bron Brawf Cymru bob amser yn ceisio anfon menywod sydd angen mwy o brofion at dîm asesu amlddisgyblaethol sy’n gysylltiedig ag ysbyty lleol cyfleus. Ond bydd menyw’n cael ei hanfon at dîm gwahanol os yw’r clinig mwyaf addas yn llawn yn barod (fel arfer oherwydd bod llif y gwaith yn anwastad) neu os yw un neu fwy o aelodau’r tîm amlddisgyblaethol i ffwrdd ar wyliau. Mae menywod yn tueddu wedyn i aros gyda’r llawfeddyg maen nhw wedi’i weld yn y clinig asesu.

Bob hyn a hyn, gall Fyrddau Iechyd Lleol gael anfonebau annisgwyl gan Ymddiriedolaethau nad oes ganddyn nhw gontractau bloc gyda nhw ar gyfer gwaith ym maes y fron.

Mae rhwydweithio fel hyn yn hanfodol i’r broses o roi’r rhaglen ar waith yn effeithiol ac yn gynaliadwy. Ond rhowch wybod i ni os gallwn ni helpu gydag unrhyw faterion penodol.