Gwybodaeth am Sgrinio
Sut rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth amdanoch chi
Mae Bron Brawf Cymru’n cadw gwybodaeth amdanoch chi.
Mae Bron Brawf Cymru’n cadw peth gwybodaeth amdanoch chi am nifer o resymau. Mae gofyn i ni wybod eich enw, eich cyfeiriad, eich dyddiad geni, a manylion eich meddyg teulu er mwyn i ni’ch galw chi ar yr adeg iawn i gael eich sgrinio. Rydyn ni hefyd yn cofnodi canlyniadau’ch profion chi, a manylion unrhyw driniaeth sy’n dilyn. Os byddwch chi’n dweud wrthyn ni dydych chi ddim am gael eich sgrinio, byddwn ni’n cadw cofnod o’ch manylion sylfaenol chi er mwyn gofalu dydych chi ddim yn cael eich gwahodd.
Sut rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth
Rydyn ni’n gofalu bod eich manylion personol chi ond yn cael eu defnyddio pan fo hynny’n hanfodol. Rydyn ni’n defnyddio’ch manylion personol chi i ofalu ein bod ni’n casglu a defnyddio data cywir. Rydyn ni hefyd yn defnyddio’r wybodaeth yma wrth ofalu ein bod ni’n cynnig gwasanaeth o’r safon uchaf.
Rydyn ni’n cadw’ch mamogramau ar ôl i chi farw er mwyn i ni:
- gymharu eich mamogramau diweddaraf â’r rhai blaenorol;
- adolygu’r holl gofnodion sgrinio, yn cynnwys mamogramau;
- hyfforddi’n staff arbenigol ni, a gwella’u harbenigedd nhw;
- archwilio ansawdd y gwasanaeth rydyn ni’n ei gynnig.
Mae’n bosib y bydd gofyn i staff sy’n gweithio mewn rhan arall o’r gwasanaeth iechyd weld eich cofnodion wrth gynnig gofal meddygol i chi.
Rydyn ni hefyd yn casglu gwybodaeth am bob achos o ganser y fron er mwyn monitro a mesur gwerth y rhaglen sgrinio. Mae’r gwaith yna’n cynnwys mesur y gostyngiad y byddwn ni’n ei ddisgwyl yn nifer y bobl sy’n marw o ganser y fron.
Ein dull ni o gadw gwybodaeth yn ddiogel
Cyfarwyddwr Bron Brawf Cymru sy’n gyfrifol am ofalu bod eich manylion chi’n cael eu defnyddio’n iawn. Rydyn ni’n cadw cofnodion papur allan o gyrraedd y cyhoedd. Mae cyfrineiriau’n diogelu’r cyfrifiaduron lle mae cofnodion cyfrifiadurol yn cael eu cadw, a dim ond staff cymeradwy sy’n gwybod y cyfrineiriau. Mae’r staff i gyd yn cael eu hyfforddi’n rheolaidd ym meysydd diogelwch a chyfrinachedd.
Rhannu gwybodaeth
Dim ond ar ffurf ystadegau y byddwn ni’n cyhoeddi gwybodaeth. Dydyn ni byth yn cyhoeddi’ch manylion personol chi.
Rydyn ni’n anfon eich data personol chi at y rheini sydd angen gwybod, yn cynnwys eich meddyg teulu chi. Os cewch chi wybod fod canser arnoch chi, fe fyddwn ni’n anfon eich manylion at Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru. Ac os bydd angen ymgynghorydd meddygol arnoch chi, fe fyddwn ni’n anfon gwybodaeth ato. Fel Bron Brawf Cymru, mae’n ddyletswydd ar yr holl gyrff a’r unigolion yma i barchu cyfrinachedd.
Weithiau, fe fydd y rheini sy’n gwneud treialon ymchwil neu archwiliadau’n gofyn am wybodaeth gennyn ni. Fe fydd Cyfarwyddwr Bron Brawf Cymru’n gweld pob un o’r ceisiadau yma am wybodaeth. Rhaid i bob cais am wybodaeth gael ei gymeradwyo ganddi hi a gan y Gwarcheidwad Caldicott (swyddog y Gwasanaethau Sgrinio sy’n gyfrifol am gyfrinachedd a’r defnydd o wybodaeth cleifion). Mae’r rhan fwyaf o geisiadau’n gofyn am wybodaeth sydd heb fod yn enwi cleifion. Os daw cais am enwau hefyd, byddwn ni’n gofyn am eich caniatâd chi cyn rhoi unrhyw fanylion i unigolion sydd heb fod yn gweithio i Bron Brawf Cymru. Weithiau, fe allwn ni ddefnyddio’ch gwybodaeth chi heb ofyn am eich caniatâd, e.e. yn achos astudiaethau mawr iawn sy’n bwysig o ran diogelu iechyd y cyhoedd. Ond dim ond pan fydd sail gyfreithiol dros wneud hynny y bydd hynny’n digwydd. Cyn rhyddhau manylion personol, mae Bron Brawf Cymru’n mynnu bod ymchwilwyr yn cael eu cymeradwyo gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Feddygol. Mae’r pwyllgorau bob amser yn ystyried y broses o ofyn am ganiatâd.
Gwybodaeth am Bron Brawf Cymru
Mae Bron Brawf Cymru’n cyhoeddi gwybodaeth am ei wasanaethau ar y wefan:
www.screeningservices.org.uk/btw
Dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, fe allwch chi ofyn am wybodaeth drwy:
- gysylltu â Bron Brawf Cymru drwy’r wefan
- anfon e-bost at ScreeningDirector@velindre-tr.wales.nhs.uk
- ysgrifennu at y Cyfarwyddwr gan ddefnyddio’r cyfeiriad sy’n dilyn.
Cynnig awgrym neu gwyno
Os ydych chi am gynnig awgrym neu gwyno, holwch am ein taflen yn unrhyw un o’n canolfannau ni, neu ysgrifennwch aton ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad sy’n dilyn. Mae rhagor o fanylion ar ein gwefan ni hefyd.
Rhagor o wybodaeth
Os ydych chi am holi am ein gwybodaeth ni amdanoch chi, cysylltwch â’r:
Cyfarwyddwr
Bron Brawf Cymru
18 Heol yr Eglwys Gadeiriol
Caerdydd
CF11 9LJ
Gallwch chi ddysgu mwy am wybodaeth a sut mae mynd ati drwy’r:
Comisiynydd Gwybodaeth: www.informationcommissioner.gov.uk
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (Cymru)
Cambrian Buildings
Mount Stuart Square
Caerdydd
CF10 5FL
Ffôn: 029 - 2044 8044
Ffacs: 029 - 2044 8045
E-bost: waleseico.gsi.gov.uk
[BTW06(Ver3)07/07]



