• pwy sy’n cael eu sgrinio?
  • ddylech chi gael eich sgrinio?
  • trefnu apwyntiad
  • pan fo angen i chi gael mwy o brofion
  • oes symptomau arnoch chi?
Google custom search

Gwybodaeth am Sgrinio

 

Taflenni Gwybodaeth - Gwybodaeth am risg ymbelydredd mamograffi

 

A yw'r ymbelydredd yn achosi risg?

Yn Bron Brawf Cymru, rydyn ni'n defnyddio mamograffi i ddod o hyd i ganser y fron. Mae hynny'n golygu anfon ymbelydredd (radiation) (sef pelydrau X) drwy'r fron i greu llun (mamogram). Mae ymbelydredd yn gallu achosi canser, ond mae risg mamograffi'n isel iawn. Mae'r manteision yn drech o lawer na risg yr ymbelydredd. Mae nifer y bywydau sy'n cael eu harbed drwy ddod o hyd i ganser y fron, a'i drin, yn llawer uwch na nifer y bywydau a allai gael eu colli oherwydd canser a achoswyd gan ymbelydredd.

 

Beth rydyn ni'n gwneud i ostwng y risg?

Y dos yw'r enw ar lefel yr ymbelydredd. Po isaf y dos, po leiaf y risg. Er hynny, os yw'r dos yn rhy isel, mae'n bosib na fydd y mamogram yn ddigon clir i ddangos unrhyw ganser sydd yno. Rydyn ni'n monitro ein cyfarpar er mwyn gofalu bod y dos ac ansawdd y mamogram yn gytbwys. Mae'r dos y mae'n holl gyfarpar ni'n ei roi yn cydymffurfio â safonau'r D.U. Rydyn ni hefyd yn lleihau dos unrhyw ymbelydredd diangen drwy ofalu mai ond ychydig o famogramau sy'n gorfod cael eu hail-wneud.

 

Sut mae disgrifio dos ymbelydredd?

Rydyn ni'n mesur dos mamograffi drwy ddefnyddio'r mesur dos chwarennol cymedrig (mean glandular dose neu MDG). Y dos cyfartalog ar gyfer meinweoedd chwarennol y fron yw hwn. Mae'n cael ei fynegi fel unedau o filigrei (mGy). Mae'r dos yn dibynnu ar faint a math y fron.

 

Sut mae disgrifio dos ymbelydredd?

Dydi ymbelydredd ddim yn achosi canser y fron yn syth. Ond mae'n cynyddu ychydig iawn y siawns o gael canser nifer o flynyddoedd wedyn. Y siawns o gael canser yn datblygu yn ystod gweddill eich bywyd yw'r “risg oes”. Felly, mae'r risg yn dibynnu ar eich oedran pan gawsoch chi'r ymbelydredd. Yn 70 oed, mae'r risg yn llai na hanner y risg pan rydych chi'n 50 oed.

 

Faint o risg sydd yna?

Mae mamograffi'n creu risg isel iawn. Mae'n bosib amcangyfri'r risg i ferch 60 oed drwy ddefnyddio'r dos wedi'i fesur fel hyn:

Gwerth cyfartalog MGD yn achos mamogram Bron Brawf Cymru sy'n tynnu llun o ddwy ochr: 4.4 mGy

Y risg oes o gael canser gan ymbelydredd: tua 10, y filiwn, y mGy.

Felly, i'r ferch yma, y risg oes y bydd y mamogram yn achosi canser yw tua 44 y filiwn, neu 1 mewn 23,000.

 

Sut mae cymharu'r risg â'r manteision?

Rhaid ystyried y risg o 1 mewn 23,000 yn ei wir oleuni. O bob 23,000 o ferched 60 oed sy'n cael sgrinio'u bronnau gan Bron Brawf Cymru, mae canserau eisoes ar 200. Fe fydd y mamogram yn dod o hyd i'r canserau yma.

 

Sut mae cymharu risg mamograffi â risgiau eraill?

Dyma rai o'r pethau eraill sydd â'r un lefel o risg:

  • Rai misoedd o ymbelydredd cefndirol naturiol (neu dreulio rhai wythnosau yng Nghernyw)
  • Hedfan mewn awyren ddwywaith i Awstralia, ac yn ôl

A dyma rai gweithgareddau eraill sydd â'r un math o risg:

  • Gyrru tua 3000 o filltiroedd mewn car
  • Bod yn 40 oed am ryw wythnos (o ystyried y risgiau sy'n deillio o weithgareddau bob dydd, salwch etc)

 

Pa effaith sydd yna o gael llawer o archwiliadau pelydr X?

Mae elfen o risg yn perthyn i bob archwiliad pelydr X unigol. I amcangyfri effaith llawer o archwiliadau, fe ddylech chi ystyried y cyfanswm. Does dim gwahaniaeth a yw'r archwiliadau i gyd yn cael eu gwneud yr un diwrnod, neu'n cael eu gwasgaru dros nifer o flynyddoedd. Mae cyfanswm y risg yr un fath.

 

Beth am gael mamograffi yn ystod beichiogrwydd?

Yn ystod mamograffi, mae'r ymbelydredd yn cael ei gyfeirio at eich bronnau'n unig. Ychydig iawn o risg sydd yna i fabi yn y groth. Er hynny, os ydych chi'n credu eich bod chi'n feichiog, ac rydych chi'n poeni am y risg, fe ddylech chi drafod eich pryderon â ni cyn cael eich mamogram.

 

Ffynonellau gwybodaeth a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r daflen wybodaeth yma:

Y Gymdeithas Feddygol Brydeinig The BMA guide to living with risk 1990 (Llundain: Llyfrau Penguin) ISBN 0 14 012504 3

Bwrdd Cenedlaethol Diogelu rhag Ymbelydredd (NRPB) X-rays: how safe are they? Mai 2001 (Chilton: NRPB)

Cyhoeddiad rhif 54 gan Raglen Sgrinio'r Fron y GIG: Review of radiation risk in breast screening Chwefror 2003 (Sheffield: Rhaglenni Sgrinio Canser y GIG) ISBN 1 871997 99 2