Gwybodaeth am Sgrinio
Sgrinio’r fron i fenywod dros 70 oed
Mae’r daflen yma’n rhoi gwybod sut y gall menywod dros 70 oed ofyn am apwyntiad sgrinio’r fron.
1. A yw sgrinio’n bwysig?
Cynyddu mae’r risg o gael canser y fron wrth i rywun fynd yn hŷn. Mae’n dal yn bwysig i fenywod dros 70 oed gael sgrinio’u bronnau. Os ydych chi dros 70 oed, fyddwch chi ddim yn cael eich gwahodd yn awtomatig i gael sgrinio’ch bronnau. Mae hawl gennych chi i gael eich sgrinio bob tair blynedd, ond i chi ofyn.
2. Sut gallaf i gael fy sgrinio?
I ofyn am apwyntiad neu i gael gwybod pryd y bydd sgrinio’r fron yn dod i’ch ardal chi nesaf, cysylltwch â chanolfan sgrinio’r fron eich ardal.
3. Beth bynnag eich oedran,
cysylltwch â’ch meddyg os sylwch chi ar unrhyw newidiadau anarferol yn eich bronnau hyd yn oed os cawsoch chi’ch sgrinio’n ddiweddar.



