Gwybodaeth am Sgrinio
Taflenni Gwybodaeth - Trefnu gwasanaeth sgrinio’r fron yn Bron Brawf Cymru
Pwrpas y daflen yma yw egluro sut rydyn ni’n penderfynu pa ferched i’w galw i gael eu sgrinio. Nod y daflen yw helpu’r rheini sydd heb gael eu galw eto, neu helpu’r rheini y mae canser y fron arnyn nhw’n barod. Rydyn ni’n ceisio egluro sut rydyn ni’n trefnu’n gwasanaeth, a pham y byddwch chi’n cael eich galw ar adeg benodol.
Beth yw Bron Brawf Cymru?
Rhan o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS) Felindre yw Bron Brawf Cymru. Mae’n gyfrifol am raglen sgrinio’r fron y GIG yng Nghymru. Rydyn ni’n gweithio gyda Meddygon Teulu ac Ymddiriedolaethau ledled Cymru i gyflwyno’r rhaglen i ferched sy’n byw yng Nghymru. Mae ein gwaith ni’n cynnwys:
- anfon gwahoddiadau
- sgrinio mamograffig
- asesu gan arbenigwyr
- rhywfaint o lawdriniaeth
- archwilio celloedd a meinweoedd mewn labordai
Mamogram yw’r prawf sgrinio, sef set o archwiliadau pelydr X ar y fron. Mae’n wasanaeth i ferched iach.
Os bydd merched yn gweld unrhyw newidiadau anarferol yn eu bronnau, rydyn ni’n eu hannog nhw’n gryf i fynd at eu meddyg teulu. Mae angen gwneud hyn, hyd yn oed os cafodd y merched eu sgrinio’n ddiweddar.
Sut mae Bron Brawf Cymru’n gwybod pa ferched i’w galw?
Pan fydd pobl yn cofrestru gyda’u Meddygon Teulu mae eu henwau, eu cyfeiriadau, eu dyddiad geni a’u manylion eraill yn cael eu cadw’n ganolog ar gronfa ddata gyfrifiadurol. Mae’r gronfa ddata yma’n cael ei defnyddio mewn nifer o ffyrdd, yn cynnwys galw merched ar gyfer sgrinio’r fron a sgrinio serfigol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gwneud Bron Brawf Cymru’n gyfrifol am alw pob merch gymwys i gael sgrinio’i bronnau.
Pwy ddylai gael eu galw?
Fel rhan o’r rhaglen genedlaethol, mae hawl gan bob merch yn y grŵp oedran targed i gael ei sgrinio. Mae Bron Brawf Cymru wedi ymrwymo i gynnig i bob merch gymwys yng Nghymru'r cyfle i gael ei sgrinio, heb wahaniaethu ar sail anabledd, hil, cenedl, tras ethnig neu genedlaethol, credau crefyddol, amgylchiadau’r cartref, statws cymdeithasol na statws gwaith.
Yn rhannau eraill y D.U., fe fydd rhaglen sgrinio’r fron yn galw cleifion meddygon teulu i gael eu sgrinio yn eu tro. Does dim sicrwydd felly y caiff merch ei galw yn ystod y flwyddyn y bydd hi’n cyrraedd 50 oed. Er hynny, mae’r rhaglen yn ceisio gofalu bod pob merch yn cael ei galw cyn ei phen-blwydd yn 53 oed.
Mae Bron Brawf Cymru’n galw’n awtomatig bob merch sydd yn y grŵp oedran targed. Fe gaiff merched sydd dros yr oedran yna’u hannog i ofyn am apwyntiad bob tair blynedd. Mae’n bosib na fydd rhai merched yn dymuno cael eu sgrinio. Os gwnân nhw ddweud hynny’n ysgrifenedig, fe fydd Bron Brawf Cymru’n nodi hynny yn eu cofnodion. Fydd y merched yna ddim yn cael eu galw eto, oni bai eu bod nhw’n newid eu meddyliau.
Fel rheol, fydd dim hawl gan ofalwyr merched sydd ag anghenion arbennig i wrthod y cynnig ar ran y ferch. Ond fe fydd Bron Brawf Cymru’n fodlon ystyried pob cais â chydymdeimlad.
Mae merched sydd wedi cael gwybod cyn eu pen-blwydd yn 50 oed bod canser arnyn nhw’n para’n gymwys i gael eu galw. Mae’n bosib y byddai’r merched yna’n dymuno tynnu’n ôl o’r rhaglen sgrinio tra byddan nhw’n cael gofal dilynol. Fel arall, efallai y byddan nhw’n dymuno parhau i gael eu galw er mwyn ailddechrau’r broses sgrinio pan ddaw’r gofal dilynol i ben.
Cael gwahoddiadau diangen
Rydyn ni’n ceisio gofalu’n bod ni’n galw’r merched cywir. Cyn anfon gwahoddiadau, rydyn ni’n gwirio manylion y merched gyda phractis y Meddyg Teulu. Ambell waith, os bydd merch wedi symud tŷ neu wedi marw’n ddiweddar, mae’r wybodaeth sydd gennym yn anghywir. Mae’n cymryd peth amser i’r math yma o wybodaeth gyrraedd y gronfa ddata ganolog. Fe allai hynny olygu ein bod ni’n anfon gwahoddiad diangen at ferch.
Ambell waith, fe fydd merched yn gofidio pan gân nhw wahoddiad ar ôl cael gwybod eu bod nhw’n dioddef o ganser neu broblemau eraill. Rydyn ninnau’n poeni os ydyn ni’n achosi gofid. Ond, ein cyfrifoldeb ni yw galw merched, oni bai eu bod nhw wedi rhoi gwybod i ni nad ydyn nhw’n dymuno cael eu galw.
Merched sydd â hanes o ganser y fron yn y teulu
Rydyn ni’n cynnig y cyfle i ferched iau gael eu sgrinio os cawson nhw’u hasesu gan Wasanaeth Geneteg Canser Cymru, a chael gwybod eu bod nhw’n fwy tebygol o ddatblygu canser y fron ar sail hanes y teulu.
Fe fydd merched sydd â risg ganolig yn cael eu galw’n flynyddol ar ôl eu pen-blwydd yn 40 oed, nes byddan nhw’n cyrraedd yr oed i fod yn rhan o Raglen Sgrinio’r Fron y GIG. Wedyn fe fyddan nhw’n cael eu galw’n awtomatig bob tair blynedd.
Fe fydd merched sydd â risg uchel yn cael eu galw’n flynyddol ar ôl eu pen-blwydd yn 35 oed, nes byddan nhw’n cyrraedd yr oed cymwys. Wedi hynny, fe gân nhw’u galw bob 18 mis nes byddan nhw’n 60 oed. Ar ôl 60 oed, fe fyddan nhw’n cael eu galw bob tair blynedd, fel rhan o Raglen Sgrinio’r Fron y GIG.
Fe gaiff y sgrinio’i wneud yng Nghanolfannau Sgrinio Bron Brawf Cymru, sydd yng Nghaerdydd, Llandudno ac Abertawe. Fe fydd y ferch yn cael apwyntiad yn y Ganolfan Sgrinio agosaf at bractis ei Meddyg Teulu. Fydd y sgrinio ddim yn cael ei wneud yn un o unedau symudol Bron Brawf Cymru.
[BBC22(Fer1)07/07]



