Gwybodaeth am Sgrinio
Taflenni Gwybodaeth - Sgrinio merched sydd â mewnblaniadau
Os oes mewnblaniad (implant) gennych chi yn eich bron, efallai eich bod chi’n ansicr a yw sgrinio’n addas i chi ai peidio. Fe allai’r wybodaeth yma fod yn ddefnyddiol i chi.
Mae’n dechnegol anoddach i’r radiograffydd eich sgrinio chi. Mae’n bosib y byddwn ni’n trefnu i chi gael eich mamogram yn y ganolfan statig, lle y gall y radiograffydd wirio ansawdd eich ffilmiau ar y pryd.
Mae meinwe’r fron dan bwysau’n barod oherwydd y mewnblaniad, felly fydd y radiograffydd dim ond yn pwyso’n ysgafn wrth gymryd y mamogram. Mae’n annhebygol y byddai hynny niweidio’r mewnblaniad.
Fel y mae’r daflen wahoddiad yn egluro, dydi sgrinio, fel y rhan fwyaf o brofion, ddim yn 100% cywir. Nid yw’n rhwystro canser chwaith. Hefyd, mae’r mewnblaniad yn ddwys ac fe fydd yn cuddio peth o feinwe’r fron.
Mae’n neilltuol o bwysig eich bod chi’n parhau i chwilio am unrhyw newidiadau yn eich bronnau. Peidiwch ag oedi cyn mynd i weld eich meddyg teulu os byddwch chi’n dod o hyd i rywbeth anarferol.
[BTW11(Ver1)6/04]



