Gwybodaeth am Sgrinio
Taflenni Gwybodaeth - Sgrinio’r fron ar gyfer merched sydd â hanes teuluol o ganser y fron (o 35 oed)
Pam ei bod hi’n bwysig sgrinio’r fron?
Yn y DG, mae 1 o bob 11 merch yn datblygu canser y fron ar ryw adeg yn ystod ei bywyd. Wrth sgrinio’r fron canfyddir newidiadau cynnar na ellir eu gweld na’u teimlo yn aml. Trwy ddiagnosis cynnar rhoddir y cyfle gorau i wella’n llwyr. Caiff y rhan fwyaf o achosion o ganser y fron a ganfyddir yn gynnar eu trin yn llwyddiannus gyda’r triniaethau modern sydd ar gael heddiw. Nid yw sgrinio yn atal canser ac fel y rhan fwyaf o brofion nid yw 100% yn gywir. Golyga hyn y gallem fethu â chanfod rhai achosion o ganser. Mae hefyd yn golygu y gall rhai merched dderbyn archwiliadau a/neu weithdrefnau diangen.
Pwy gaiff gynnig sgrinio?
Yn y DG, caiff pob merch yn y grwp oedran 50-64 eu gwahodd yn awtomatig bob tair blynedd, fel rhan o Raglen Sgrinio’r Fron y GIG. Yng Nghymru, caiff y gwasanaeth sgrinio hwn ei ddarparu gan Bron Brawf Cymru. Mae canser y fron yn fwy cyffredin mewn merched dros 50 oed (yn gyfrifol am tua 4 allan o bob 5 achos a ganfyddin) a phrofwyd bod sgrinio yn effeithiol ar gyfer grwp oedran hwn.
Fe fydd gwahoddiadau sgrinio yn cael eu hymestyn i ferched hyd at 70 oed. Ni chaiff merched o dan 50 oed eu gwahodd i’w sgrinio, gan nad yw o fudd amlwg yn ôl astudiaethau ymchwil, er bod yr ymchwil yn parhau.
Pam fy mod yn cael cynnig sgrinio?
Er nad yw astudiaethau ymchwil wedi dangos budd amlwg ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol i sgrinio cyn 50 oed, hwyrach y bydd merched sydd â hanes teuluol yn elwa o sgrinio cynharach.
Pam mor aml y dylwn i gael fy sgrinio?
Byddwch yn derbyn gwahoddiad yn flynyddol o oedran 35 tan eich bod yn 50 oed; wedi hynny byddwch yn derbyn gwahoddiad bob deunaw mis tan eich bod yn 60 oed. O hynny ymlaen cewch wahoddiad bob tair blynedd fel rhan o Raglen Sgrinio’r Fon y GIG.
Ble bydd y sgrinio yn digwydd?
Bydd y sgrinio yn digwydd yng Nghanolfannau Sgrinio Bron Brawf Cymru, sydd yng Nghaerdydd, Llandudno ac Abertawe. Cewch apwyntiad i fynd i’r ganolfan sgrinio fydd yn cwmpasu eich ardal. Ni fydd sgrinio ar gael yn unedau symudol Bron Brawf Cymru.
Sut y caf fy sgrinio?
Byddwn yn tynnu lluniau pelydr-X o’ch bronnau a elwir yn ‘famogramau’. Bydd dau lun o safleoedd gwahanol yn cael eu tynnu o’r ddwy fron ym mhob apwyntiad sgrinio. Mae lefel yr ymbelydredd a ddefnyddir yn isel iawn, a chredwn fod y budd posibl o gael eich sgrinio yn llawer mwy na’r perygyl o gael eich niweidio gan belydr-x.
Pa mor hir bydd hyn yn ei gymryd?
Fel arfer byddwch yn yr Uned Sgrinio am tua hanner awr, fodd bynnag dim ond ychydig funudau y bydd y pelydr-x yn ei gymryd.
A fydd y prawf yn anghyfforddus?
Bydd y ddwy fron yn eu tro yn cael eu dal yn gadarn yn eu lle a’u cywasgu tra bydd y lluniau pelydr-x yn cael eu tynnu, er mwyn cael llun clir a chadw lefel yr ymbelydredd yn isel. Mae rhai merched yn dweud bod y prawf yn anghyfforddus a dim ond nifer fach sy’n dweud ei fod yn boenus.
Sut y caf i wybod y canlyniad?
Ein nod yw anfon y canlyniad atoch trwy’r post o fewn 3 wythnos. Bydd eich meddyg yn cael copi o’ch canlyniadau hefyd.
Os bydd y mamogram yn dangos abnormalrwydd posibl, byddwch yn cael eich galw yn ôl ir Ganolfan am asesiad pellach. Fel arfer byddwn yn ail gymryd y mamogram ac fe fydd meddyg yn eich archwilio. Fe fyddwn yn egluro wrthych os bydd angen cymryd unrhyw brofion pellach. Mae canlyniadau’r rhan fwyaf o ferched fydd yn cael eu galw yn ôl yn normal ar ôl cael eu harchwilio ymhellach.
Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn sylwi ar symptomau?
Rhdym yn annog pob merch i gymryd sylw o’u bronnau rhwng eu hapwyntiadau sgrinio. Dylech gysylltu â’ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau anarferol yn eich bronnau ar unrhyw bryd, hyd yn oed os byddwch wedi cael mamogram normal yn ddiweddar.
Beth os gallwn fod/ydw i’n feichiog?
Mae dogn yr ymbelydredd i’r abdomen yn ystod mamograffi yn isel iawn, felly fe allech ddal i gael eich sgrinio. Fodd bynnag, hwyrach yr hoffech aros nes y byddwch yn sicr nad ydych yn feichiog.
Beth ddylwn i ei wneud nawr?
Os hoffech i Bron Brawf Cymru eich gwahodd i gael eich sgrinio, a fyddech cystal â llofnodi’r ffurflen ganiatâd amgaedig a’i dychwelyd fel y nodir ar y daflen.
Beth os nad wyf am gael fy sgrinio?
Does dim rhaid i chi ddewis i gael eich sgrinio nawr. Fe gewch wahoddiad i gael eich sgrinio yn awtomatig ar ôl i chi gyrraedd eich hanner cant gan Bron Brawf Cymru, pan fyddwn yn sgrinio merched yn y feddygfa ble rydych wedi’ch cofrestru. Cyn hynny, os byddwch yn newid eich meddwl, mae croeso i chi gysylltu âr Gwasanaeth Geneteg a byddant yn anfon ffurflen ganiatâd arall atoch.
A oes yna unrhyw beth arall y dylwn i wybod amdano?
Dim ond i ferched sy’n byw yng Nghymru y bydd Bron Brawf Cymru yn cynnig y gwasanaeth hwn.
Mae angen i Bron Brawf Cymru gadw gwybodaeth amdanoch er mwyn i ni allu anfon gwahoddiadau sgrinio atoch a gwirio perfformiad y rhaglen. Rydym yn cymryd pob gofal i gadw eich manylion personol yn gyfrinachol a dim ond gyda phobl sydd a galw cyfreithiol neu feddygol amdano y byddwn yn rhannu’r wybodaeth er enghraifft eich meddyg teulu neu’r Gwasanaeth Geneteg.
Er mwyn gweld a oes buddiannau yn deillio o’r cynllun peilot hwn, bydd rhai o’ch manylion yn cael eu cynnwys ar gronfa ddata genedlaethol. Bydd y manylion hyn yn ddienw; dim ond Bron Brawf Cymru a’r Gwasanaeth Geneteg fydd â’ch enw a’ch cyfeiriad.
Mae Bron Brawf Cymru yn cadw’r hawl i ddod a’r arfer o sgrinio merched o dan 50 oed i ben, er enghraifft os bydd tystiolaeth yn dangos nad yw’n fuddiol.
[BTW17(Ver0)12/00]



