• pwy sy’n cael eu sgrinio?
  • ddylech chi gael eich sgrinio?
  • trefnu apwyntiad
  • pan fo angen i chi gael mwy o brofion
  • oes symptomau arnoch chi?
Google custom search

Gwybodaeth am Sgrinio

 

Taflenni Gwybodaeth - Esbonio sgrinio'r fron (uned symudol)

 

Mae'r daflen yma'n rhoi gwybod i chi am sgrinio'r fron. Mae Bron Brawf Cymru'n rhan o raglen sgrinio'r fron y GIG. Mae sgrinio'r fron i bob merch 50 oed a hyˆn.

 

1 Beth yw sgrinio'r fron?

Mae sgrinio'r fron yn chwilio am ganser y fron cyn i symptomau ddod i'r golwg. Mae'n golygu tynnu pelydrau-x (mamogramau) o'r fron. Tynnir o leiaf dau belydr-x o'r naill fron a'r llall.

 

2 Pam mae sgrinio'n bwysig?

Gall canser y fron effeithio ar unrhyw ferch ond mae'n fwy cyffredin mewn merched dros 50 oed. Mae'r risg o ddatblygu canser y fron yn gysylltiedig ag oedran ¬po hynaf ydych chi, po uchaf eich risg. Bydd yn effeithio ar un mewn naw o ferched Cymru ar ryw adeg o'i bywyd. Os down ni o hyd i ganser y fron yn gynnar, mae siawns well y bydd triniaeth yn llwyddo. Cael mamogramau rheolaidd yw'r ffordd orau o sgrinio am ganser y fron am fod posibilrwydd na allwch chi weld neu deimlo newidiadau cynnar.

 

3 Pwy sy'n cael eu sgrinio gan Bron Brawf Cymru?

Rydyn ni'n gwahodd merched rhwng 50 a 70 oed bob tair blynedd. Rydyn ni'n defnyddio rhestri cleifion meddygon teulu i adnabod merched, felly mae'n bwysig bod eich enw a'ch cyfeiriad cywir gan eich meddyg bob amser.

Rydyn ni'n gwahodd merched o bractis pob meddyg yn ei dro. Fyddwch chi ddim o angenrheidrwydd yn cael eich gwahoddiad y flwyddyn y byddwch chi'n cyrraedd 50. Cyn belled â'ch bod chi wedi'ch cofrestru â meddyg, fe fyddwn ni'n eich galw chi i gael sgrinio'ch bronnau cyn eich pen-blwydd yn 53.

Gall merched dros 70 oed ofyn i ni am apwyntiad bob tair blynedd drwy gysylltu â chanolfan sgrinio Bron Brawf Cymru yn eu hardal.

Byddwn ni'n dal i wahodd merched rhwng 50 a 70 oed sy'n cael triniaeth ddilynol mewn clinig y fron mewn ysbyty, oni bai eu bod nhw'n gofyn i ni beidio â'u gwahodd.

Mae'n bosib y byddwn ni hefyd yn gwahodd merched a gafodd mastectomi ar y ddwy fron (tynnu’r ddwy fron) os na chawson ni wybod am y driniaeth ganddyn nhw neu gan eu meddyg teulu.

Os ydych chi'n credu na ddylech chi fod wedi cael eich gwahodd, rhowch wybod i ni'n syth.

Does dim tystiolaeth eto i brofi bod cynnig sgrinio arferol ar y fron i ferched dan 50 oed, sydd heb symptomau, yn gostwng y nifer sy'n marw o ganser y fron.

Beth bynnag yw'ch oed, os ydych chi'n poeni am unrhyw broblemau ar eich bronnau, cysylltwch â'ch meddyg. Fe allai'ch cyfeirio chi at glinig y fron eich ysbyty lleol.

 

4 I ble fydda i'n mynd i gael sgrinio'r fron?

Rydyn ni'n gwneud profion sgrinio'r fron mewn uned sgrinio symudol neu yn un o'n canolfannau sgrinio. Mae'ch llythyr gwahoddiad chi'n dweud wrthych chi ble i fynd a sut mae newid eich apwyntiad.

 

5 Beth ddylwn i wisgo?

Fe allai fod yn haws i chi wisgo top ar wahân gan y bydd rhaid i chi dynnu'ch dillad at y wasg. Fe allech chi wisgo diaroglydd os ydych chi eisiau gan na fydd yn effeithio ar y drefn.

 

6 Beth fydd yn digwydd?

Ar ôl i chi gyrraedd, byddwn ni'n gwirio'ch manylion personol. Byddwn ni'n mynd â chi i giwbicl newid preifat. Bydd radiograffydd benywaidd yn mynd â chi oddi yno i stafell arall i gael eich mamogramau. Bydd y radiograffydd yn esbonio'r drefn i chi. Bydd hi'n rhoi'ch bronnau, un ar y tro, rhwng dau blât arbennig ac yn tynnu'r pelydrau-x.

 

7 Fydd y drefn yn brifo?

Mae rhai merched yn teimlo bod y drefn yn anghyfforddus ac ychydig yn teimlo'i bod yn boenus. Mae gofyn i ni bwyso i gael mamogramau o ansawdd wrth ddefnyddio dos isel o ymbelydredd. Dim ond am ychydig eiliadau fydd y pwyso'n para. Os byddwch chi'n teimlo poen, dim ond yn ystod y prawf fydd y boen yn para fel arfer. I nifer bach iawn o ferched, fe all y boen bara am beth amser.

 

8 Beth fydd yn digwydd nesa?

Bydd staff arbenigol yn gwirio'ch mamogramau. Ein nod yw anfon eich canlyniad atoch drwy'r post o fewn tair wythnos. Bydd eich meddyg teulu'n cael gwybod am eich canlyniad hefyd.

Byddwn ni wedyn yn gwahodd merched 50-70 oed eto dair blynedd wedyn, fel rhan o'r broses sgrinio arferol.

Bydd sgrinio'n methu rhai canserau.

Os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw newidiadau neu os byddwch chi'n bryderus rhwng eich apwyntiadau sgrinio, ewch at eich meddyg teulu'n syth. Peidiwch ag aros am eich apwyntiad sgrinio nesa.

 

9 Pam y gallwn i gael fy ngalw'n ôl?

Weithiau, bydd angen i ni alw merched yn ôl am fod nam technegol wedi digwydd. Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi os dyma'r rheswm dros eich galw.

Byddwn ni'n galw'n ôl tua un mewn 20 o'r merched rydyn ni'n eu sgrinio am fod ymddangosiad y pelydr-x yn awgrymu bod gofyn gwneud mwy o brofion. Fe allai'r profion yma gynnwys mwy o famogramau, archwiliad clinigol, sgan uwchsain ac, o bosib, biopsi nodwydd. Fydd dim problemau ar y rhan fwyaf o'r merched yma a byddwn ni'n eu galw nhw eto mewn tair blynedd fel rhan o'r broses sgrinio arferol.

 

10 Beth os bydd angen triniaeth arna i?

Os cewch chi ddiagnosis o ganser y fron, dod o hyd iddo'n gynnar sy'n cynnig y cyfle gorau i'w drin yn llwyddiannus. Byddwn ni'n trafod yr holl opsiynau'n llawn gyda chi a chytuno ar drefniadau'ch triniaeth.

 

11 Beth fydd yn digwydd i fy mhelydrau-x i ar ôl iddyn nhw gael eu gwirio?

Byddwn ni'n cadw'ch holl famogramau chi fel ein bod ni'n gallu:

  • cymharu'ch mamogramau diweddarafchi â rhai a gawsoch chi o'r blaen;
  • adolygu'r holl gofnodion sgrinio, yncynnwys mamogramau;
  • hyfforddi a gwella arbenigedd ein staff arbenigol ni;
  • mesur ansawdd y gwasanaeth rydyn ni'n ei gynnig.

Fe allai fod angen i staff sy'n gweithio mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd weld eich cofnodion i helpu gyda'ch gofal meddygol. Pe bai adolygiad yn dangos y dylech chi fod wedi cael gofal gwahanol, byddwn ni'n cysylltu â chi. Fe allwch chi gael mwy o wybodaeth am eich achos os ydych chi eisiau.

I gael mwy o wybodaeth am y cofnodion rydyn ni'n eu cadw, cysylltwch â chanolfan sgrinio Bron Brawf Cymru yn eich ardal. Gofynnwch am daflen 'Sut rydyn ni'n defnyddio gwybodaeth amdanoch chi'.

 

12 Pa mor gywir yw sgrinio'r fron?

Mamogramau yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ganfod canser y fron yn gynnar. Fel profion sgrinio eraill, dydyn nhw ddim yn berffaith. Er enghraifft:

  • mae rhai canserau'n anodd iawn eu gweld;
  • mae'n amhosib gweld rhai canserau,er eu bod nhw yno;
  • fe allai'r un sy'n darllen y pelydr-x fethu'r canser. (Fe fydd hyn yn digwydd weithiau, waeth pa mor brofiadol yw'r darllenydd.) Ein nod yw gofalu bod dau arbenigwr yn gwirio'r holl famogramau.

 

13 Rhai cwestiynau eraill

Dydw i ddim wedi derbyn gwahoddiadau blaenorol. Alla i ddod?

Gallwch. Byddwn ni'n dymuno i chi ddod er nad ydych chi wedi bod o'r blaen.

Rydw i wedi cael mamogramau yn rhywle arall. Alla i ddod?

Gallwch, cyn belled â bod y mamogram blaenorol o leiaf 6 mis yn ôl. Cysylltwch â ni os oedd y mamogram yn fwy diweddar.

Beth os oes anabledd arna i?

Cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, hyd yn oed os buoch chi o'r blaen. Mae'n bosib na fyddwch chi'n gallu mynd yn rhwydd i mewn i'r uned symudol, ond fe geisiwn ni drefnu dewis rhesymol arall.

Mae mewnblaniadau gen i? Alla i gael fy sgrinio?

Gallwch, ond mae'n fwy anodd i'r radiograffydd eich sgrinio chi. A wnewch chi gysylltu â ni rhag ofn y bydd angen newid eich apwyntiad?

Beth os bydd angen i mi ddod â rhywun gyda fi?

Does dim llawer o le yn yr unedau symudol. Cysylltwch â ni, os gwelwch yn dda, i ofyn am fwy o wybodaeth cyn eich apwyntiad.

Beth os bydd angen i mi hawlio costau teithio?

Os ydych chi'n cael Cymhorthdal Incwm, gallwch chi hawlio'ch costau'n ôl. Gofynnwch i ni am fanylion.

Beth os bydd angen cyfieithydd arna i?

Gallwn ni drefnu help cyfieithydd, fel arfer. Rhowch wybod i ni os gwelwch yn dda, o leiaf wythnos cyn eich apwyntiad.

Beth os hoffwn i gael gwybod am y dos o ymbelydredd?

Mae mamograffi'n golygu defnyddio dos bach iawn o ymbelydredd ac mae'r perygl i'ch iechyd chi'n isel iawn. Os ydych chi'n poeni am yr archwiliad, neu os hoffech chi ofyn cwestiynau, holwch y radiograffydd.

 

14 Y ffeithiau

I'ch helpu chi i benderfynu a fyddwch chi'n dod i gael eich sgrinio ai peidio, rydyn ni wedi rhestru prif fanteision ac anfanteision sgrinio am ganser y fron. Dyma nhw:

  • Mae sgrinio'r fron yn lleihau'r perygl o farw o ganser y fron.
  • Bydd sgrinio'n methu rhai canserau ar y fron.
  • Mae'r rhan fwyaf o ganserau'r fron agaiff eu canfod wrth sgrinio'n rhai cynnar iawn, pan mae cyfle da i driniaeth lwyddo.
  • Allwn ni ddim gwella pob canser y fron a gaiff ei ganfod wrth sgrinio.
  • Byddwn ni'n galw merched yn ôl i gael mwy o brofion os byddwn ni'n ansicr beth sydd i'w weld ar y mamogramau. Os cewch chi'ch galw'n ôl, fe all greu pryder. Ond byddwn ni'n canfod nad oes canser ar lawer o'r merched yma.
  • Rydyn ni'n canfod dros 700 o ganserau bob blwyddyn.
  • Mae rhai merched o'r farn fod mamogramau'n anghyfforddus neu'n boenus, ond dim ond am gyfnod byr fel arfer.

 

15 Mwy o wybodaeth a chefnogaeth

Os oes cwestiynau gennych chi am y gwasanaeth:

Fe allwch chi gael y wybodaeth yma mewn ieithoedd eraill, mewn print mawr, ar ffurf sain neu mewn Braille.

[BTW26(Ver1)11/05]