Gwybodaeth am Sgrinio
Ein nod
Mae Bron Brawf Cymru’n rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Rydyn ni’n cynnig gwasanaeth sgrinio’r fron o safon i fenywod 50 oed a hŷn ym mhob rhan o Gymru. Mae ein staff wedi cael eu hyfforddi’n arbennig i ofalu amdanoch mewn ffordd gwrtais ac ystyriol.
Eich gwahoddiad
Byddwn ni’n:
- anfon eich gwahoddiad cyntaf atoch i gael sgrinio’ch bronnau cyn eich pen-blwydd yn 53, a phob tair blynedd wedi hynny tan fyddwch chi’n 70 oed;
- trefnu apwyntiad ar eich cyfer os ydych chi’n gofyn am un ac rydych chi dros 70 oed a heb gael eich sgrinio yn ystod y tair blynedd diwethaf;
- anfon gwybodaeth glir atoch am fanteision a pheryglon sgrinio;
- rhoi o leiaf saith diwrnod o rybudd i chi cyn dyddiad eich apwyntiad;
- ei gwneud hi’n hawdd i chi newid eich apwyntiad; ac yn
- parchu’ch hawl i ddewis peidio â chael eich sgrinio.
Eich sgrin
Byddwn ni’n:
- eich gweld o fewn 30 munud i amser eich apwyntiad;
- eich sgrinio i’r safonau uchaf posib;
- anfon eich canlyniad atoch o fewn tair wythnos;
- cwtogi cymaint â phosib ar yr achosion o alw cleifion yn ôl am resymau technegol (gan alw llai na 2% o’r menywod sy’n cael eu sgrinio); ac yn
Os oes angen mwy o brofion arnoch chi
Byddwn ni’n:
- cynnig apwyntiad i chi o fewn wythnos i’r dyddiad y cawsoch ein llythyr yn eich galw’n ôl;
- anfon gwybodaeth glir atoch yn esbonio pam mae rhai menywod yn cael eu galw’n ôl; ac yn
- rhoi canlyniadau’ch profion i chi ar y diwrnod hwnnw os gallwn ni, neu'n gofyn i chi ddod yn ôl yn ystod yr wythnos nesaf i gael eich canlyniadau os oedd eich profion yn fwy cymhleth.
Mae canser y fron ar lai na 1% o’r menywod rydyn ni’n eu sgrinio. Ond, os byddwn ni’n rhoi diagnosis o ganser y fron i chi, byddwn ni’n:
- rhoi gwybod i chi’n onest ac yn sensitif;
- cynnig i un o’n nyrsys gofal y fron fod yn gefn i chi;
- cynnwys eich partner neu’r person sydd gyda chi mewn unrhyw drafodaethau, os ydych chi’n awyddus i ni wneud hynny;
- rhoi gwybodaeth lawn a chlir i chi;
- esbonio’r gwahanol driniaethau sydd ar gael;
- eich cynnwys yn llawn yn y broses o wneud penderfyniadau;
- trefnu i chi gael triniaeth;
- parchu’ch hawl i wrthod triniaeth, i ofyn am ail farn neu i ddewis math arall o driniaeth os ydych chi’n awyddus i wneud hynny; ac yn
- rhoi gwybodaeth i chi am wasanaethau cymorth.
Cyfrinachedd
Rhaid i ni gadw peth gwybodaeth amdanoch chi er mwyn eich gwahodd i gael eich sgrinio ac i wirio a yw’r rhaglen sgrinio’n gweithio’n ddigon da.
Byddwn ni’n:
- cadw’ch manylion personol yn gyfrinachol; ac yn
- rhoi gwybodaeth i neb heblaw pobl sydd ag angen cyfreithiol neu feddygol i’w chael, er enghraifft, eich meddyg teulu.
Gofynnwch am ein taflen 'Sut rydyn ni’n defnyddio gwybodaeth amdanoch chi' i gael gwybod mwy.
Helpwch ni drwy:
- ddarllen yn ofalus y wybodaeth rydyn ni’n ei hanfon atoch – rhowch wybod os hoffech chi gael gwybodaeth mewn print mawr, ar dâp sain, mewn lluniau neu mewn ieithoedd eraill;
- cadw at amser eich apwyntiad; a
- rhoi o leiaf tri diwrnod o rybudd i ni os oes angen i chi newid eich apwyntiad.
Os oes unrhyw sylwadau gennych chi am ein rhaglen sgrinio, rhowch wybod i ni.
[BTW16(Ver 4)1/09]



