• pwy sy’n cael eu sgrinio?
  • ddylech chi gael eich sgrinio?
  • trefnu apwyntiad
  • pan fo angen i chi gael mwy o brofion
  • oes symptomau arnoch chi?
Google custom search

Merched â hanes o ganser y fron yn y teulu

 

Er nad yw astudiaethau ymchwil wedi dangos bod mantais amlwg i gychwyn sgrinio pob merch cyn 50 oed, fe allai hynny fod o fudd i ferched sydd mewn mwy o risg oherwydd hanes o ganser y fron yn y teulu. Nid oes gwybodaeth am y cydbwysedd rhwng y manteision a'r niwed o sgrinio merched ieuengach sydd mewn risg cymharol neu uchel, gan nad oes gwaith ymchwil wedi'i wneud hyd yma ar y grwp yma o ferched.

Mae sefydlu system i werthuso sgrinio ar gyfer y grwp yma o ferched, a darparu gwasanaethau sgrinio a genetig o ansawdd uchel yn hanfodol, er mwyn darparu gwybodaeth i rai sy'n gyfrifol am faterion polisi, clinigwyr a'r merched eu hunain. Felly mae Bron Brawf Cymru'n cynnig sesiynau sgrinio i ferched sy'n byw yng Nghymru, sydd wedi'u hasesu gan y Gwasanaeth Geneteg ac sydd â mwy o risg o ddatblygu canser y fron.

I gael rhagor o wybodaeth, siaradwch gyda’ch meddyg teulu neu gofynnwch i ni am fanylion cysylltu’r Gwasanaeth Geneteg yn eich ardal.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE) wedi cyhoeddi arweiniad clinigol ar 'Ddosbarthu a gofalu am ferched mewn risg oherwydd hanes teuluol o ganser y fron'. Mae'r arweiniad yn awgrymu y dylai merched mewn risg oherwydd hanes teuluol o ganser y fron sydd o fewn oedran priodol fod yn rhan o astudiaeth FH01.

Prif negeseuon Arweiniad Clinigol NICE ar Ganser y Fron i rai â hanes o ganser y fron yn y teulu yw:

  • nad yw'r rhan fwyaf o ferched yn datblygu canser y fron, ac yn achos y rhai hynny sy'n ei ddatblygu, fe fydd gan y rhan fwyaf hanes teuluol o'r afiechyd y maen nhw'n gyfarwydd ag ef
  • cynnydd mewn oedran yw'r ffactor risg mwyaf i'r rhan fwyaf o ferched
  • nid yw'r rhan fwyaf o ferched â hanes o ganser y fron yn y teulu'n perthyn i gategori risg-uchel, a dydyn nhw ddim yn datblygu canser y fron
  • nid yw'r rhan fwyaf o ferched sydd â pherthynas â chanser y fron mewn mwy o risg sylweddol o gael canser y fron eu hunain.