• pwy sy’n cael eu sgrinio?
  • ddylech chi gael eich sgrinio?
  • trefnu apwyntiad
  • pan fo angen i chi gael mwy o brofion
  • oes symptomau arnoch chi?
Google custom search

Gwybodaeth am Sgrinio

 

Y Gost o Sgrinio'r Fron yng Nghymru

Cyfanswm cyllid Bron Brawf Cymru am y blynyddoedd sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad yma oedd:

  • 2002 i 2003: £6,433,000

Mae hyn yn cynrychioli 0.19% o gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yn 2002/2003 oedd yn £3.4 billion.

Mae’r sgrinio’n cynnwys yr holl weithgareddau y mae Bron Brawf Cymru’n gyfrifol amdanyn nhw, hynny yw, am y gwaith sgrinio a’r profion hyd at y diagnosis. Mae’r holl gostau ynghlwm â gweithgareddau sicrhau ansawdd lleol a chenedlaethol hefyd wedi’u cynnwys. Mae’r cyllid yn cyfateb i oddeutu £80 y sgrin and just under £10,000 for each case of breast cancer.

Mae hyn yn cynnwys costau ar gyfer:

Staff:

  • recriwtio, tâl, teithio, hyfforddiant
  • gwasanaethau personél ac ariannol
  • cefnogaeth gorfforaethol gan Ymddiriedolaeth GIG Felindre.

Ystadau a chyfarpar:

  • llety, gan gynnwys, trethi, gwresogi, goleuo, prydlesi, gwaith addurno ac atgyweirio canolfannau sgrinio Bron Brawf Cymru
  • cynnal y cyfarpar gweinyddol, TG a meddygol, gan gynnwys y 10 uned symudol a 18 set mamograffeg.

Nwyddau traul:

  • tâl post a deunydd ysgrifennu ar gyfer yr holl wahoddiadau, llythyrau galw’n ôl a chanlyniadau (dros chwarter miliwn o lythyrau bob blwyddyn!) a’r holl waith gweinyddol
  • deunydd ysgrifennu, tâl post, deunyddiau gwybodaeth i’r cyhoedd (taflenni, arddangosiadau, fideos)
  • ffilmiau mamograffeg, hylifau prosesu, tanwydd
  • nodwyddau a chyflenwadau meddygol eraill.

Costau ysbyty:

  • ar gyfer biopsïau llawdriniaethol diagnostig.

Nid yw’n cynnwys costau trin, sydd o hyd dan ofal y gwasanaethau dwys.