Newyddion
Uned sgrinio’n cynnig mynediad gwell i fenywod anabl yng Nghymru (04/01/10)
Heddiw mae Bron Brawf Cymru’n lansio uned sgrinio deithiol newydd sy’n caniatáu mynediad i bobl mewn cadeiriau olwyn.
Dim ond yn rhannau o dde-ddwyrain Cymru y bydd yr uned ar waith ar hyn o bryd, ond bwriad Bron Brawf Cymru yw prynu unedau teithiol newydd yn lle’r holl hen rai yn ystod y blynyddoedd nesaf. Bydd hynny’n cynnig yr un gwasanaeth i bob menyw ar hyd a lled Cymru.
Uned newydd Bron Brawf Cymru yw’r gyntaf o’r math yma o uned yn y Deyrnas Unedig. Ei nod yw annog menywod ag anableddau corfforol i ddod i gael sgrinio’u bronnau am ddim.
Mae’r digwyddiad lansio’n dilyn y newyddion mai graddfeydd datgelu Bron Brawf Cymru yw’r uchaf yn y Deyrnas Unedig.
Cost yr unedau yw £140,000, a dyma’r cam cyntaf yn y broses o brynu unedau teithiol newydd yn lle deg hen uned Bron Brawf Cymru.
Er bod tua 9,000 o fenywod Cymru sydd rhwng 50-70 oed, sef y grŵp sgrinio, wedi’u cofrestru fel defnyddwyr cadeiriau olwyn, mae ystadegau’n dangos mai dim ond tua 1,500 sydd ar hyn o bryd yn dod i gael y prawf yma a allai achub eu bywydau.
Esboniodd Dr Rose Fox, dirprwy gyfarwyddwr Gwasanaethau Sgrinio Cymru: “Hyd yn hyn, mae llawer o’r menywod a oedd yn methu mynd i fyny’r stepiau i’r unedau teithiol wedi gorfod teithio’n bell i gael eu sgrinio. Rydyn ni’n gwybod bod llawer o fenywod wedi methu manteisio ar y cynnig i gael sgrinio’u bronnau. Felly, rwy’n hynod o falch y byddwn ni’n awr yn gallu cynnig sgrinio i fwy o fenywod yng Nghymru.”
Mae lifft yn yr uned newydd, sydd ar hyn o bryd wedi’i lleoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a nifer o nodweddion eraill a fydd yn gwneud ei defnyddio’n haws i ddefnyddwyr anabl. Yn eu plith y mae coridor lletach i lawr canol yr uned, mynedfa fwy lle mae desg is yn y dderbynfa, a drws lletach i mewn i’r ystafell pelydr-x. Mae mwy o le hefyd yn yr ystafell pelydr-x ar gyfer cadair olwyn, ac mae’n bosib cyfuno dau o’r ciwbicls newid i wneud un ciwbicl sydd â lle i gadair olwyn. Mae botwm galw isel ar y tu allan hefyd, er mwyn i’r defnyddwyr gofrestru ar ôl cyrraedd. Mae’n bosib mynd i’r uned mewn cadair olwyn sy’n mesur hyd at 31˝ o led.
“Rydyn ni’n awyddus iawn i bwyso a mesur profiadau’r menywod a’r staff sy’n defnyddio’r uned yma, er mwyn gofalu ei bod yn ffafrio’r defnyddiwr gymaint â phosib,” dywedodd Dr Fox.
Cafodd yr uned ei lansio’n swyddogol gan Sally Mitchell, cyflwynydd iechyd a lles Able Radio, sef gorsaf radio ar y We ar gyfer pobl ag anableddau, a’r Athro Mansel Aylward, cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n rhedeg Bron Brawf Cymru.
Yn ystod y digwyddiad lansio, dywedodd Sally Mitchell: “Rydyn ni yn Able Radio’n awyddus iawn i chwalu unrhyw rwystrau sy’n atal pobl ag anableddau rhag cymryd rhan mewn bywyd arferol bob-dydd. Dyna pam mae’r uned sgrinio newydd yma’n achosi cymaint o gyffro. Mae’n caniatáu i’r rheini ohonom sy’n cael trafferth symud, fanteisio’n fwy rhwydd ar y rhaglen sgrinio.”
Ychwanegodd Ms Mitchell, a oedd yn gweithio fel nyrs tan i ddamwain 10 mlynedd yn ôl ei chaethiwo i gadair olwyn: “Mae datgelu problemau’n gynnar a chynnig triniaeth yn hanfodol i’r canlyniadau fod yn dda. Ac mae’n hyfryd gweld y rheini ohonom sy’n cael trafferth symud yn cael eu cynnwys nawr yn y rhaglen werthfawr yma.”

Sally Mitchell (cyflwynydd Iechyd a Lles, Able Radio), yr Athro Syr Mansel Aylward (Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru), Dr Rosemary Fox (Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Sgrinio Cymru) ac Yvonne Farmer (cadeirydd Cynghrair Pobl Anabl Caerdydd a’r Fro) yn lansio uned deithiol newydd Bron Brawf Cymru.

Sally Mitchell a Dr Rosemary Fox ar uned deithiol newydd Bron Brawf Cymru.



