Sganiau uwchsain mewn beichiogrwydd
Fel rhan o’ch gofal cyn geni, byddwch chi’n cael cyfle i gael dau brawf sgrinio uwchsain (ultrasound). Chi fydd yn dewis a fyddwch chi’n cael y profion neu beidio. Darllenwch y daflen yma cyn penderfynu’r naill ffordd neu’r llall.
Mae’r daflen yma i fenywod beichiog ac mae’n esbonio:
- natur y profion;
- y rhesymau dros eu gwneud;
- a’r adeg maen nhw’n cael eu gwneud.
Ffordd o chwilio am broblemau a allai fod yn effeithio ar eich beichiogrwydd yw’r sgan. Mae’n brawf sgrinio. Os oes unrhyw broblemau i’w gweld, byddai angen gwneud profion eraill i’w gwirio. Nid yw sgan yn gallu datgelu pob problem.
Beth yw sgan uwchsain?
Sut mae’r sgan yn cael ei drefnu?
Sut mae’r sgan yn cael ei wneud?
Sut byddaf i’n cael canlyniadau fy sgan?
Y sgan uwchsain cynnar mewn beichiogrwydd
Sgan uwchsain anomaledd y ffetws
Beth fydd yn digwydd os oes problem yn dod i’r amlwg yn ystod y sgan, neu fod awgrym bod problem i’w gweld?
Beth fydd yn digwydd os oes anomaledd pendant yn dod i’r amlwg?
Beth yw sgan uwchsain?
Mae peiriant uwchsain yn defnyddio tonnau sain i greu delwedd (image) ar sgrin cyfrifiadur.
Mae’r person fydd yn gwneud y sgan yn cael ei alw’n sonograffydd. Bydd y sonograffydd yn esbonio’r drefn yn ystod eich apwyntiad.
Sut mae’r sgan yn cael ei drefnu?
Os byddwch chi’n penderfynu cael sgan, bydd eich bydwraig yn dweud wrthych chi ble y gallai gael ei wneud, a bydd yn trefnu apwyntiad ar eich cyfer.
Os byddwch chi’n newid eich meddwl ar ôl i apwyntiad i gael sgan gael ei drefnu ar eich cyfer, dywedwch wrth eich bydwraig ac ewch ati i ganslo’r apwyntiad.
Sut mae’r sgan yn cael ei wneud?
Bydd y sonograffydd yn cael delwedd gliriach o’ch babi os nad yw’ch pledren (bladder) yn hollol wag yn ystod y sgan. Ceisiwch beidio â phasio dŵr am ryw awr cyn eich apwyntiad.
Er mwyn i’r sonograffydd weld eich babi’n glir ar y sgrin, ychydig iawn o olau fydd yn yr ystafell. Gan fod gwaith sganio’n golygu canolbwyntio’n ddwys, bydd yr ystafell yn un dawel iawn hefyd. Bydd y sonograffwyr yn esbonio’r drefn i chi ac yn dweud am beth y maen nhw’n chwilio.
Bydd y sonograffydd yn gofyn i chi orwedd ar eich cefn i gael y sgan. Nid oes angen i chi wisgo unrhyw ddillad penodol ar gyfer y sgan. Ond bydd y sonograffydd yn gofyn i chi godi’ch dillad o’ch gwasg i fyny at eich brest ac i wthio’ch sgert neu drowsus i lawr at eich cluniau. Bydd y sonograffydd yn taenu gel ar ran isaf eich abdomen ac yn symud dyfais fach o’r enw trawsddygiadur (transducer) yn ôl ac ymlaen drosto. Nid yw tonnau uwchsain yn gallu pasio trwy’r aer, felly mae’r gel yn gwella’r cyswllt rhwng eich croen a’r ddyfais. Bydd papur sidan yn cael ei osod i rwystro’r gel rhag mynd ar eich dillad.
Mae’r trawsddygiadur yn taflu tonnau sain trwy’ch abdomen i mewn i’r groth. Mae’r tonnau sain yma’n sboncio’n ôl oddi ar y babi ac yn cael eu trosi’n ddelwedd ar sgrin.
Mae sgan uwchsain yn syml iawn ac nid yw’n achosi unrhyw boen. Efallai y bydd angen i’r sonograffydd bwyso ar eich abdomen er mwyn gweld y babi’n iawn.
A yw’r sganiau’n ddiogel?
Hyd y gwyddom ni, mae’r sgan dyddio’n gynnar mewn beichiogrwydd a’r sgan anomaledd y ffetws yr ydyn ni’n eu cynnig yn gwbl ddiogel i’r fam ac i’r babi. Beth yw manteision cael sgan cynnar a sgan anomaledd y ffetws? Mae’r sgan cynnar mewn beichiogrwydd yn cadarnhau bod calon eich babi’n curo ac yn dweud ym mha gam o’r cyfnod cario’r ydych chi. Bydd y sgan yn gweld hefyd a ydych chi’n cario mwy nag un babi er mwyn i’r bydwragedd a’r meddygon gynllunio’ch gofal.
Mae sganiau’n gallu dod o hyd i broblemau cyn i’r babi gael ei eni. Mae cael gwybod am broblemau (anomaleddau) cyn i’r babi gael ei eni’n gallu’ch helpu chi a’ch partner i baratoi ar ei gyfer. Weithiau, mae’n helpu i gynllunio’r driniaeth y bydd y babi’n ei chael ar ôl y geni. Pan mae menywod yn cael gwybod am broblem ddifrifol, efallai y bydd rhai’n awyddus i ystyried terfynu’r beichiogrwydd.
Beth yw anfanteision cael sgan cynnar a sgan anomaledd y ffetws?
Efallai y bydd cael y sganiau’n gwneud i chi boeni, yn arbennig os ydyn nhw’n dod â phroblem i’r amlwg. Os oes well gennych chi beidio â chael gwybod am unrhyw broblemau cyn i’r babi gael ei eni, mae angen i chi feddwl yn ofalus ynglŷn â chael y sganiau. Dylech chi drafod eich pryderon gyda’r fydwraig.
Y canlyniadau
Fydd fy nghanlyniadau’n gyfrinachol?
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cadw canlyniadau pob prawf yn gyfrinachol. Mae polisïau ysbytai ynglŷn â faint o bobl fydd yn gweld canlyniadau’ch profion yn amrywio. Gall eich bydwraig esbonio’r drefn sydd ar waith yn eich ardal.
Sut byddaf i’n cael canlyniadau fy sgan?
Bydd y sonograffydd yn dweud wrthych chi am ganlyniadau’ch sgan ar ôl yr archwiliad.
Allaf i ddod â fy nheulu neu ffrindiau gyda fi pan ddof i gael y sgan?
Mae’r rhan fwyaf o fabanod yn iach, ond gan fod y sgan anomaledd yn gallu dod ag annormaleddau i’r amlwg, efallai y byddai’n syniad i chi ddod â’ch partner neu rywun arall i fod yn gefn i chi tra’r ydych chi’n cael eich sgan.
Mae’n well peidio â dod â phlant i’r apwyntiad. Maen nhw’n gallu tynnu’ch sylw chi a sylw’r sonograffydd yn ystod y sgan.
Oes modd i mi gael llun o’r babi?
Mae’n bosib weithiau i fenywod brynu’r lluniau o’r babi sy’n cael eu tynnu yn ystod y sgan. Os ydych chi’n awyddus i gael lluniau, dywedwch wrth eich sonograffydd cyn i’r sgan ddechrau.
Y sgan uwchsain cynnar mewn beichiogrwydd
Mae pob menyw’n cael cyfle i gael y sgan yma, fel arfer rhwng wythnosau 11-13 o’r beichiogrwydd.
Faint o amser fydd fy sgan yn ei gymryd?
Mae’r sgan uwchsain cynnar yn cymryd tua 10 munud.
Pwrpas y sgan:
- gwirio curiad calon eich babi;
- gweld ydych chi’n cario mwy nag un babi (mae angen gofal ychwanegol ar fenywod sy’n cario efeilliaid neu dripledi ac, os oes efeilliaid, mae’n bwysig gwybod a yw’r babanod yn rhannu’r un brych [placenta]);
- mesur eich babi i amcangyfrif y dyddiad geni (mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi’n ystyried cael mwy o brofion sgrinio);
- a gwirio datblygiad eich babi (nid yw datblygiad y babi’n glir iawn yn gynnar mewn beichiogrwydd ond mae’n bosib gweld problemau difrifol weithiau).
Fydd angen i mi gael sgan cynnar arall?
Mae’n gallu bod yn anodd gweld y babi’n glir trwy ddefnyddio trawsddygiadur ar yr abdomen. Felly, gallai’r sonograffydd awgrymu’ch bod chi’n cael sgan mewnol. Sgan trawsweiniol (sgan trwy’r wain [vagina]) yw’r enw ar hwn, ac fe allai roi darlun cliriach. Bydd angen i’ch pledren fod yn wag ar gyfer y sgan yma. Mae trawsddygiadur bach yn cael ei roi yn y wain ac mae’n teimlo fel cael tampon yn y wain.
Nid yw sgan uwchsain trwy’r wain yn boenus. Bydd y sonograffydd yn esbonio’r drefn ac yn gofyn ydych chi’n fodlon ei gael. Dywedwch wrth y sonograffydd os byddai’n well gennych chi beidio â chael sgan mewnol. Byddwch chi’n cael cyfle i gael apwyntiad ar gyfer sgan amdomenol arall.
Sgan uwchsain anomaledd y ffetws
Mae menyw’n cael cyfle i gael y sgan yma rhwng wythnos 18 ac wythnos 20 o’r beichiogrwydd.
Faint o amser fydd fy sgan yn ei gymryd?
Mae’r sgan yn cymryd tua 15-20 munud fel arfer.
Pwrpas y sgan:
- gwirio datblygiad corfforol eich babi;
- helpu i adnabod problemau neu anomaleddau fel spina biffida a namau eraill ar y tiwb niwral;
- gweld faint o hylif sydd o gwmpas y babi yn y groth;
- ac edrych ar safle’r brych.
Mae gan y sonograffydd restr o bethau i chwilio amdanyn nhw yn eich babi a bydd yn gwneud rhai mesuriadau eraill.
Fydd angen i mi gael sgan anomaledd arall?
Bydd y sonograffydd yn defnyddio rhestr wirio benodol i chwilio am gyflyrau neilltuol a namau fel spina biffida yng nghorff y babi. Efallai na fydd y sonograffydd yn gallu gweld pob un o’r eitemau sydd ar y rhestr wirio ac ni fydd yn gallu cwblhau’r sgan. Efallai fod hyn wedi digwydd:
- am fod eich babi’n gorwedd mewn safle a oedd yn gwneud yr archwiliad yn anodd;
- roedd hi’n rhy gynnar yn y beichiogrwydd i’r sgan gael ei wneud;
- neu rydych chi’n pwyso mwy na’r lefel gyfartalog ar gyfer rhywun o’r un taldra â chi, ac roedd hyn yn gwneud edrych ar eich babi’n anodd ac nid oedd y delweddau’n glir.
Os bydd hyn yn digwydd, byddwch chi’n cael apwyntiad arall i ddod yn ôl i gael un sgan arall i weld a all y sonograffydd gwblhau’r rhestr wirio. Ond nid yw bob amser yn bosib i’r sonograffydd gwblhau’r rhestr, hyd yn oed ar ôl gwneud ail sgan.
Pa fath o broblemau sy’n gallu dod i’r amlwg?
Mae sgan yn gallu dangos rhai problemau yn natblygiad babi, ond nid pob un. Gall rhai problemau ddatblygu ar ôl wythnos 20, ac ni fydd sgan yn gallu dangos rhai problemau. Oherwydd hyn, mae nifer bach iawn o fabanod â phroblemau’n cael eu geni er nad oedd unrhyw broblem i’w gweld yn ystod y sgan.
Mae rhestr uwchben o’r problemau mwyaf cyffredin a allai ddod i’r amlwg yn ystod eich sgan. Mae’r ffigwr yn y golofn dde’n dangos pa mor debygol yw hi y bydd sgan anomaledd yn gallu adnabod y broblem os yw’r cyflwr ar eich babi. Nid yw’r rhestr yn cynnwys pob annormaledd a allai’r sgan eu dangos.
| Y broblem |
Y posibilrwydd y byddai’r broblem i’w gweld ar sgan uwchsain anomaledd yn ystod wythnosau 18-20 |
Mae namau ar y tiwb niwral yn cael eu hachosi pan nad yw’r croen neu’r asgwrn yn ffurfio’n iawn dros linyn y cefn neu’r ymennydd. Y ddau brif fath o nam ar y tiwb niwral yw:
anenceffali (dim top i’r pen)
spina biffida (dim croen neu asgwrn yn gorchuddio llinyn y cefn) |
99%
90% |
| Problemau difrifol ar y galon |
25% |
| Hernia yn y diaffram (nam ar y cyhyr sy’n gwahanu’r frest a’r abdomen) |
60% |
O: www.rcog.org.uk [gwybodaeth 16/12/09]
Mae rhai problemau’n cael eu hachosi am fod problem yng nghromosomau’r babi sy’n effeithio ar ei ddatblygiad. Os oes awgrym bod problem ar y cromosomau, efallai y byddwch chi’n cael cyfle i gael amniocentesis. Mae gwybodaeth mewn taflen ar wahân am y profion yma.
Mae sgan anomaledd y ffetws yn gallu dod o hyd i gyflyrau prin iawn eraill fel problemau difrifol ar yr arennau neu ar y coesau a’r breichiau. Ond nid yw’r sgan yn gallu gweld cyflyrau eraill fel mân broblemau yn natblygiad y babi, problemau sy’n datblygu ar ôl i’r sgan gael ei wneud, a chyflyrau fel parlys yr ymennydd ac awtistiaeth.
Beth fydd yn digwydd os oes problem yn dod i’r amlwg yn ystod y sgan, neu fod awgrym bod problem i’w gweld?
Os yw’r sonograffydd yn gweld problem, bydd yn dweud wrthych chi amdani. Fe gewch chi gyfle hefyd i’w thrafod gyda’r bydwragedd neu’r meddygon yn eich clinig cyn geni.
Yn achos rhai mân broblemau, dim ond sganiau eraill yn nes ymlaen yn eich beichiogrwydd y byddwch chi eu hangen.
Mae’n amhosib weithiau i’r sonograffydd ddweud yn bendant yn ystod y sgan anomaledd cyntaf beth yw natur y broblem. Efallai y byddwch chi’n cael cyfle i gael sgan arall mewn adran arall neu dan ofal arbenigwr sy’n delio â’r math o broblem a allai fod ar eich babi.
Profion diagnostig ar ôl cael sgan manwl
Efallai y byddwch chi’n cael cyfle i gael prawf arall fel amniocentesis. Bydd eich bydwraig neu’ch obstetregydd (y meddyg yn yr ysbyty) yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am unrhyw brofion eraill.
Beth fydd yn digwydd os oes anomaledd pendant yn dod i’r amlwg?
Efallai y byddai cael gwybod am broblem bosib ar eich babi’n eich helpu chi a’ch partner i’ch paratoi eich hunain. Gallwch chi ddefnyddio gwybodaeth am y math o broblem i benderfynu sut, pryd a ble y bydd y babi’n cael ei eni. Efallai y bydd angen iddo gael ei eni mewn ysbyty arall lle mae’r staff a’r gofal arbenigol y bydd eich babi ei angen ar gael.
Mae’n bosib trin nifer bach iawn o broblemau cyn i’r babi gael ei eni.
Os yw’r broblem yn un ddifrifol, efallai y byddwch chi’n penderfynu terfynu’ch beichiogrwydd, neu’n penderfynu gadael iddo fynd yn ei flaen. Mae’r rhain yn benderfyniadau anodd a byddwch chi’n cael amser, gwybodaeth a chymorth i’ch helpu i ddod i’r penderfyniad sy’n iawn i chi.
Mae dod i wybod bod problem ar y babi yn eich croth yn achosi llawer o ofid. Mae penderfynu beth i’w wneud yn anodd, a bydd angen rhywfaint o gefnogaeth ar y rhan fwyaf o fenywod. Gallai’r gefnogaeth ddod gan eich partner, eich teulu neu’r gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gofalu amdanoch chi. Mae croeso i chi ddod â’ch partner neu ffrind gyda chi pan ddewch ar gyfer eich apwyntiadau yn yr ysbyty.
Mwy o wybodaeth
Gallwch chi gael mwy o wybodaeth am sganiau uwchsain gan eich bydwraig, eich meddyg yn yr ysbyty (eich obstetregydd), eich sonograffydd ac o wefan Sgrinio Cyn Geni Cymru ar www.antenatalscreening.org. |