Rhagarweiniad i’r profion sgrinio cyn geni
Eich dewisiadau mewn beichiogrwydd
Yn ystod eich beichiogrwydd, byddwch chi’n cael cyfle i gael nifer o wahanol brofion sgrinio. Mae’r daflen yma’n cynnig gwybodaeth bwysig am sgrinio cyn geni ac am y profion. Gallwch chi ddewis cael y profion yma neu beidio. Bydd y wybodaeth yn y daflen yma’n eich helpu i ddewis. Bydd y wybodaeth yn y daflen yma'n eich helpu i benderfynu a fyddwch chi'n cael, neu'n peidio â chael, rai o'r profion neu'r profion i gyd. Byddwch chi’n cael cyfle i drafod y profion gyda’ch bydwraig a’ch meddyg.
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cadw canlyniadau pob prawf yn gyfrinachol. Mae polisïau ysbytai ynglŷn â faint o bobl fydd yn gweld canlyniadau’ch profion yn amrywio. Gall eich bydwraig esbonio’r drefn leol a fydd yn berthnasol i chi.
Mae’ch rhif GIG yn unigryw ac mae’r rhif yn caniatáu i bobl eich adnabod ar systemau cyfrifiadurol y Gwasanaeth Iechyd. Os oes copi o’ch rhif GIG gennych chi, dewch â’r rhif gyda chi pan ddewch i weld y fydwraig am y tro cyntaf neu pan ewch i’r ysbyty i ddechrau eich gofal mamolaeth.
Beth yw profion sgrinio?
Pa brofion sydd ar gael?
Penderfynu ydych chi am gael y profion
Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid Cymru
Beth yw profion sgrinio?
Gall profion sgrinio ddod o hyd i rai o’r cyflyrau sy’n gallu effeithio arnoch chi neu’ch babi. Nid ydyn nhw’n dangos yn bendant eich bod chi neu’ch babi wedi’ch effeithio. Maen nhw’n mesur y siawns eich bod chi neu’ch babi wedi’ch effeithio.
Os yw canlyniad prawf sgrinio’n dangos siawns uwch fod problem neilltuol yn effeithio arnoch chi, byddwch chi’n cael cyfle i gael prawf diagnostig. Mae profion diagnostig yn rhoi canlyniadau mwy pendant, ond mae perygl y gall rhai achosi erthyliad naturiol (miscarriage). Dyna pam mai dim ond menywod sydd â siawns uchel o fod â phroblem sy’n cael cyfle i gael y profion yma.
Fel pob prawf meddygol, nid yw canlyniadau profion sgrinio a phrofion diagnostig yn 100% cywir.
Pa brofion sydd ar gael?
Byddwch chi’n cael cyfle i gael y profion sgrinio sy’n dilyn.
Rhwng wythnos 11 ac wythnos 13, fel arfer
Sgan uwchsain i weld:
- ym mha wythnos o’r beichiogrwydd yr ydych chi;
- a yw calon y babi’n curo;
- ac a oes mwy nag un babi.
Yn gynnar yn y beichiogrwydd, fel arfer cyn wythnos 13
Byddwch chi’n cael cyfle i gael profion gwaed i ddatgelu:
- heintiau fel HIV, hepatitis B a siffilis a allai niweidio’ch babi;
- eich grŵp gwaed a’ch grŵp Rhesws, ac i weld a oes unrhyw wrthgyrff (antibodies) yn eich gwaed;
- rhai anhwylderau penodol ar y gwaed (fel cryman-gell [sickle cell] a thalasaemia) sy’n cael eu hetifeddu;
- ac a ydych chi wedi’ch diogelu rhag cael rwbela (y frech Almaenig).
Mae’n bosib gwneud yr holl brofion yma ar yr un pryd. Gallwch chi ddewis y profion rydych chi am eu cael. Bydd eich bydwraig yn esbonio lle y gall y profion gael eu gwneud.
Rhwng wythnos 15 ac wythnos 18
Profion am syndrom Down
Gallwch chi gael prawf gwaed i fesur y siawns y gallwch chi gael babi â syndrom Down. Mae’n bosib gwneud y prawf ar ôl wythnos 15 o’r beichiogrwydd.
Rhwng wythnos 18 ac wythnos 20
Gallwch chi gael sgan uwchsain i weld a oes unrhyw broblemau yn y ffordd mae’ch babi’n datblygu.
Penderfynu ydych chi am gael y profion
Mae’n gallu bod yn anodd penderfynu pa brofion i’w cael. Mae’n well gan rai menywod beidio â chael gwybod am unrhyw heintiau sydd arnyn nhw a allai effeithio ar y babi, neu gael gwybod am unrhyw broblemau yn y ffordd mae’r babi’n datblygu. Mae menywod eraill yn awyddus i gael gwybod er mwyn diogelu’r babi rhag cael heintiau. Neu, os oes problemau difrifol ar y babi, gallan nhw ystyried a ydyn nhw am derfynu’r beichiogrwydd neu beidio.
Cymerwch eich amser i benderfynu. Gallwch chi drafod y profion gyda’ch bydwraig a’ch meddyg, a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych. Mae taflenni eraill yn y pecyn yma hefyd sy’n cynnig mwy o wybodaeth am bob un o’r profion.
Ar ôl i chi ddewis pa brofion rydych chi’n awyddus i’w cael, bydd y fydwraig yn gwneud y trefniadau ar eich rhan. Bydd yn esbonio hefyd sut y byddwch chi’n cael y canlyniadau. Mae canlyniadau pob prawf sgrinio’n gyfrinachol.
Os byddwch chi’n newid eich meddwl
Rydych chi’n rhydd i newid eich meddwl ar ôl dewis.
Os byddwch chi’n penderfynu cael prawf, ac yn newid eich meddwl wedyn, cofiwch ddweud wrth eich bydwraig. Mae’n bwysig iddi gofnodi hynny yn eich cofnodion mamolaeth.
Sgrinio cyn geni – eich dewisiadau
Defnyddiwch y ffurflen yma i gofnodi pa brofion rydych chi’n awyddus i’w cael (eich dewisiadau sgrinio cyn geni).
| Y prawf |
Ie, Rwy’n awyddus i gael y prawf yma. |
Na, Dydw i ddim yn awyddus i gael y prawf yma. |
Ddim yn gwybod. Hoffwn i gael mwy o wybodaeth. |
| Sgan uwchsain yn gynnar mewn beichiogrwydd |
|
|
|
| Sgrinio am HIV |
|
|
|
| Sgrinio am hepatitis B |
|
|
|
| Sgrinio am siffilis |
|
|
|
| Sgrinio am rwbela |
|
|
|
| Sgrinio am grŵp gwaed a gwrthgyrff |
|
|
|
| Sgrinio am gryman-gell a thalassaemia |
|
|
|
| Sgrinio am syndrom Down |
|
|
|
| Sgan uwchsain anomaledd y ffetws |
|
|
|
Cofiwch:
- mai chi sy’n dewis pa brofion rydych chi’n awyddus i’w cael;
- dim ond gyda’ch caniatâd chi y bydd unrhyw brawf yn cael ei wneud;
- ac os byddwch chi’n methu prawf, fyddwch chi ddim yn cael eich atgoffa amdano.
Mwy o wybodaeth Yn eich ffolder, dylai fod taflenni’n rhoi gwybodaeth am:
- heintiau a beichiogrwydd;
- eich grŵp gwaed a beichiogrwydd;
- sganiau uwchsain mewn beichiogrwydd;
- sgrinio am syndrom Down mewn beichiogrwydd;
- a sgrinio am gryman-gell a thalasaemia mewn beichiogrwydd.
Gallwch chi ofyn i’ch bydwraig neu feddyg yr ysbyty (eich obstetregydd) am fwy o wybodaeth am brofion sgrinio. Mae gwybodaeth hefyd ar wefan Sgrinio Cyn Geni Cymru ar: www.antenatalscreening.org.
Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid Cymru
CARIS yw Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid Cymru.
Mae CARIS yn casglu gwybodaeth am broblemau yn natblygiad babanod mewn beichiogrwydd. Anomaleddau cynhenid, camffurfiadau neu namau geni yw’r enwau ar y problemau yma. Maen nhw’n cynnwys problemau fel syndrom Down, namau ar y galon neu daflod hollt (cleft lip).
Mae’n bwysig iawn gwybod am y mathau yma o broblemau a’r pethau sy’n eu hachosi.
Mae CARIS yn defnyddio’r wybodaeth i fesur pa mor gyffredin yw’r problemau yma. Mae’r wybodaeth mae CARIS yn ei chasglu hefyd yn helpu i ddangos pa mor effeithiol yw’r gwasanaethau iechyd wrth ganfod y problemau yma.
Os yw’ch profion sgrinio’n awgrymu bod problemau o’r fath yn effeithio ar eich beichiogrwydd, bydd y fydwraig neu’r meddyg yn anfon gwybodaeth amdanyn nhw at CARIS.
Mae’r wybodaeth ar gofrestr CARIS yn gwbl gyfrinachol. Fyddwn ni byth yn cyhoeddi’ch enw nac yn ei roi i unrhyw un arall.
Os ydych chi’n anfodlon i’ch bydwraig neu feddyg roi gwybodaeth amdanoch chi neu’ch babi i CARIS, dywedwch wrth eich bydwraig. Bydd hi’n ysgrifennu hynny yn eich nodiadau ac yn dweud wrth CARIS eich bod chi’n anfodlon iddyn nhw ddefnyddio’ch gwybodaeth chi. |