Heintiau a beichiogrwydd
Diogelu’ch babi
Mae’r daflen yma’n esbonio rhai o’r heintiau a allai achosi problemau ar gyfer eich babi, ond y mae modd eu trin.
Yr heintiau yw:
- y firws diffyg imiwnedd dynol (HIV);
- hepatitis B;
- a siffilis.
Mae profion sgrinio ar gyfer pob un o’r heintiau yma a bydd eich bydwraig yn eu cynnig i chi.
Mae’r daflen yma’n cynnig gwybodaeth hefyd am eich diogelu’ch hun rhag cael rwbela (y frech Almaenig).
Gallwch chi ddewis cael y profion yma neu beidio. Bydd y wybodaeth yn y daflen yma’n eich helpu i ddewis pa brofion i’w cael. Cyn penderfynu, gallwch chi drafod yr holl brofion gyda’ch bydwraig a’ch meddyg, a’u holi ynglŷn â’r trefniadau sydd ar waith yn eich ardal ar gyfer gwneud y profion.
Mae’r Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol – panel o arbenigwyr sy’n cadw golwg ar effeithiolrwydd a manteision profion sgrinio – yn argymell profion sgrinio ar gyfer yr holl heintiau yma.
Sut mae’r profion yn cael eu gwneud?
Fydd fy nghanlyniadau’n gyfrinachol?
Beth yw HIV?
Ddylwn i gael y prawf sgrinio am HIV?
Beth fydd canlyniad y prawf sgrinio’n ei ddangos?
A yw cael y prawf sgrinio am HIV yn effeithio ar bolisïau yswiriant?
Beth os oes HIV arnaf i?
Beth yw hepatitis B?
Ddylwn i gael y prawf sgrinio am hepatitis B?
Beth os oes hepatitis B arnaf i?
Beth yw siffilis?
Ddylwn i gael y prawf sgrinio am siffilis?
Beth os oes siffilis arnaf i?
Beth yw rwbela?
Beth os nad ydw i wedi fy niogelu rhag rwbela?
Pam mae’r profion yn cael eu hargymell?
Mae sgrinio am HIV, hepatitis B a siffilis yn cael ei gynnig a’i argymell ym mhob beichiogrwydd. Os oes un o’r heintiau yma arnoch chi ac nid yw’n cael ei thrin, gallai’ch babi ddal yr haint gennych chi yn ystod y beichiogrwydd neu’r geni, neu ar ôl y geni.
Heb eu trin, mae pob un o’r heintiau yma’n gallu bod yn ddifrifol. Gallan nhw achosi niwed difrifol i’r babi. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl sydd â’r heintiau yma’n teimlo’n wael ac nid ydyn nhw’n gwybod bod yr heintiau arnyn nhw. Os oes un o’r heintiau arnoch chi, bydd ei thrin yn cwtogi’n sylweddol ar y posibilrwydd o weld y babi’n dal yr haint.
Sut mae’r profion yn cael eu gwneud?
Mae’n bosib gwneud y profion sgrinio am HIV, hepatitis B, siffilis a’r tueddiad i gael rwbela (nid ydych wedi’ch diogelu rhag ei gael) o un sampl o waed.
Gallwch chi ddewis pa brofion fydd yn cael eu gwneud. Ychydig iawn o waed sydd ei angen.
Fel arfer, mae’r profion gwaed yn cael eu gwneud yn gynnar yn y beichiogrwdd.
Pam ddylwn i gael y prawf?
Trwy dderbyn sgrinio am HIV, hepatitis B a siffilis rydych chi’n penderfynu cael gwybod a oes haint arnoch chi, ac i wneud cymaint â phosib i ddiogelu’r babi yn eich croth.
Ble fydd y prawf gwaed yn cael ei wneud?
Bydd eich bydwraig yn esbonio ble y gallwch chi gael y prawf.
A oes unrhyw beryglon?
Mae sgrinio’n brawf gwaed syml sydd â’r un peryglon yn union ag unrhyw brawf gwaed arall.
Beth os ydw i’n gwrthod y prawf sgrinio am HIV, hepatitis B neu siffilis?
Os ydych chi’n gwrthod y prawf sgrinio am HIV, hepatitis B neu siffilis, efallai y bydd eich bydwraig yn gofyn pam eich bod yn ei wrthod er mwyn sicrhau eich bod yn deall y rhesymau dros wneud y prawf. Efallai y bydd eich bydwraig yn rhoi cyfle arall i chi’n hwyrach yn eich beichiogrwydd i drafod y prawf sgrinio ac i gael y prawf.
Gallwch chi ofyn am brawf sgrinio am HIV, hepatitis B neu siffilis ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd.
Sut byddaf i’n cael canlyniadau fy mhrawf sgrinio?
Bydd eich bydwraig yn esbonio sut a phryd y byddwch chi’n cael canlyniadau’r profion rydych chi wedi dewis eu cael.
Fydd fy nghanlyniadau’n gyfrinachol?
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cadw canlyniadau pob prawf gwaed yn gyfrinachol. Mae polisïau ysbytai ynglŷn â faint o bobl fydd yn gweld canlyniadau’ch profion yn amrywio. Gall eich bydwraig esbonio’r drefn sydd ar waith yn eich ardal.
Y firws diffyg imiwnedd dynol (HIV)
Beth yw HIV?
Firws yw HIV sy’n ymosod ar y system imiwnedd. Dyma’r firws sy’n gallu arwain at Syndrom Diffyg Imiwnedd Caffaeledig (AIDS). Gall pobl sydd wedi’u heintio â HIV edrych a theimlo’n iach am nifer o flynyddoedd. Tan iddyn nhw gael prawf gwaed, efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli eu bod nhw wedi cael eu heintio. Ond mae’n bosib trosglwyddo’r firws i’r babi yn ystod beichiogrwydd neu’r geni, neu wrth fwydo babi o’r fron.
Sut mae rhywun yn dal HIV?
Mae’n bosib dal HIV mewn sawl ffordd:
- gallai mam â’r haint ei throsglwyddo i’w babi yn ystod y beichiogrwydd neu’r geni, neu wrth fwydo’r babi o’r fron;
- unrhyw weithred rywiol ddiamddiffyn (heb ddefnyddio condom) gyda rhywun sydd wedi’i heintio;
- cael trallwysiad gwaed neu gynnyrch gwaed sy’n cynnwys y firws (mae profion yn cael eu gwneud ar y rhain yn y Deyrnas Unedig, ond nid yw pob gwlad arall yn gwneud profion);
- rhannu nodwyddau ac offer chwistrellu sydd wedi’u heintio;
- a dod i gysylltiad â nodwyddau brwnt wrth gael tyllau yn y corff a thatŵs.
Beth yw manteision cael prawf sgrinio am HIV mewn beichiogrwydd?
Os ydych chi’n HIV positif heb yn wybod i chi, mae siawns uchel (25%, neu 1 siawns o bob 4) y bydd eich babi’n mynd yn HIV positif.
Os bydd prawf yn dangos bod HIV arnoch chi, mae’n bosib gwneud nifer o bethau i leihau’r perygl o drosglwyddo’r firws i’ch babi. Byddwch chi’n cael cyfle i gael triniaeth a gofal arbenigol. Os byddwch chi’n derbyn y driniaeth sydd ar gael, byddai’n lleihau’r perygl i 1% neu lai (1 siawns neu lai o bob 100). Gallai’r driniaeth eich helpu chithau i gadw’ch iechyd yn well.
Beth yw anfanteision cael prawf sgrinio am HIV mewn beichiogrwydd?
Nid oes amser da i ddod i wybod eich bod chi’n HIV positif. Ond, o gael gwybod yn ystod eich beichiogrwydd, gallwch chi gael triniaeth i helpu i atal eich babi rhag dal y firws gennych chi.
Ddylwn i gael y prawf sgrinio am HIV?
Dim ond chi sy’n gallu penderfynu ydych chi’n awyddus i gael y prawf neu beidio. Mae pob ysbyty yng Nghymru’n cynnig prawf sgrinio am HIV i bob menyw er mwyn lleihau’r posibilrwydd o drosglwyddo’r firws i’r babi.
Beth fydd canlyniad y prawf sgrinio’n ei ddangos?
Mae sgrinio am HIV yn mesur y gwrthgyrff yn eich gwaed.
Bydd canlyniad y prawf yn dweud wrthych chi a oes haint HIV arnoch chi. Os yw’r canlyniad yn dangos nad oes haint arnoch chi, mae’n bwysig i chi gofio y gallwch chi ddal HIV tra’r ydych chi’n feichiog. Os byddwch chi’n newid eich partner rhywiol yn ystod y beichiogrwydd, dylech chi ddefnyddio condom.
Os gwnaethoch chi ddal HIV yn ystod yr ychydig wythnosau cyn i’r sampl gwaed gael ei chymryd, efallai na fydd eich corff wedi dechrau creu gwrthgyrff. Ni fydd y prawf yn gallu datgelu’r haint.
Os ydych chi’n newid eich partner tra’r ydych chi’n feichiog, neu os ydych chi’n poeni eich bod wedi dal HIV, hepatitis B, siffilis neu fath arall o glefyd sy’n cael ei drosglwyddo o berson i berson, gallwch chi ofyn i’ch bydwraig wneud prawf arall ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd. Gallwch chi hefyd ofyn i’ch clinig iechyd rhywiol agosaf wneud prawf cyfrinachol. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.iechydcyhoedduscymru.org
Beth yw’r prawf diagnostig am HIV?
Mae’r prawf sgrinio am HIV yn un cywir iawn. Os yw’r prawf sgrinio’n dangos eich bod chi’n HIV positif, byddwch chi’n cael profion gwaed eraill er mwyn i’ch meddyg gynllunio’ch triniaeth.
A yw cael y prawf sgrinio am HIV yn effeithio ar bolisïau yswiriant?
Pan mae rhywun yn gwneud cais am yswiriant, ni ddylai cwmnïau yswiriant ofyn iddyn nhw a ydyn nhw wedi cael prawf HIV. Ond mae ganddyn nhw hawl i ofyn a gafodd rhywun ganlyniad positif i brawf HIV. Os oes gennych chi bolisi yswiriant bywyd yn barod, ni fyddai cael prawf HIV yn effeithio arno, hyd yn oed os yw’r canlyniad yn bositif, ar yr amod wnaethoch chi ddim celu unrhyw ffeithiau pwysig wrth gymryd y polisi.
(Daw’r wybodaeth yma o ganllawiau ar y cyd Cymdeithas Feddygol Prydain Fawr a Chymdeithas yr Yswirwyr ym Mhrydain (British Medical Association & The Association of British Insurers). Gorffennaf 2008. Gwefan: http://www.bma.org.uk/images/MedicalInfoInsurance_tcm41-173470.pdf (gwybodaeth 22/09/09).
Beth os oes HIV arnaf i?
Os yw’r prawf yn dangos bod HIV arnoch chi, byddwch chi’n mynd ati gyda’ch bydwraig neu feddyg i gynllunio’r camau nesaf. Bydd gofal a thriniaeth feddygol arbenigol ar gael i chi er mwyn helpu i reoli’r haint. Bydd hwn yn helpu i leihau’r perygl o drosglwyddo’r firws i’ch babi.
Bydd y driniaeth yn cynnwys cael eich trin â chyffuriau. Efallai y byddwch chi’n cael eich cynghori i gael toriad Cesaraidd (Caesarean), ac i beidio â bwydo’r babi o’r fron. Fydd y driniaeth yma ddim yn cael gwared â’r clefyd, ond bydd yn gwella’ch iechyd.
Mwy o wybodaeth
Gallwch chi gael mwy o wybodaeth am HIV gan:
- eich bydwraig, eich meddyg yn yr ysbyty (eich obstetregydd) neu’ch meddyg teulu;
- neu o glinig iechyd rhywiol agosaf y Gwasanaeth Iechyd – gallwch chi ffonio’ch ysbyty lleol a gofyn am y clinig iechyd rhywiol neu’r clinig GUM (genito-urinary medicine).
Hepatitis B
Beth yw hepatitis B?
Firws sy’n heintio’r afu (iau) yw hepatitis B. Nid yw llawer o’r bobl sydd â hepatitis B yn gwybod bod yr haint arnyn nhw. Mae’r rhan fwyaf o oedolion sy’n cael hepatitis B yn gwella’n llwyr, ond mae ychydig yn dod yn ‘gludwyr’ o’r firws. Gall pobl sy’n cludo’r haint ddatblygu clefydon difrifol ar yr afu.
Os bydd menyw feichiog yn cael hepatitis B, gall ei babi ddod i gysylltiad â firws hepatitis B yn ystod y geni. Gallai babi sy’n dal y firws gael yr haint am weddill ei oes, ac fe allai achosi clefydon yr afu.
Sut mae rhywun yn dal hepatitis B?
Mae’n bosib dal hepatitis B mewn sawl ffordd:
- fe allai mam â’r haint ei throsglwyddo i’w babi yn ystod y geni;
- gwneud gweithred rywiol ddiamddiffyn (heb ddefnyddio condom) gyda rhywun sydd wedi’i heintio;
- dod i gysylltiad â hylif corfforol (body fluids) unrhyw un sydd wedi’i heintio;
- dod i gysylltiad â nodwyddau brwnt wrth gael tyllau yn y corff a thatŵs;
- rhannu nodwyddau ac offer chwistrellu sydd wedi’u heintio;
- cael trallwysiadau (transfusions) gwaed a thriniaethau meddygol dramor;
- a byw am amser hir yng nghwmni rhywun sydd wedi’i heintio.
Beth yw manteision cael prawf sgrinio am hepatitis B mewn beichiogrwydd?
Mae’n bwysig gwneud profion am hepatitis B. Os yw meddygon yn gwybod am yr haint cyn i fabi gael ei eni, mae’n bosib rhoi cyfres o frechiadau iddo’n union deg ar ôl y geni i helpu i’w rwystro rhag cael y firws. Mae’r brechiadau’n diogelu’r rhan fwyaf o fabanod rhag datblygu hepatitis B.
Os oes hepatitis B arnoch chi, mae siawns uchel y bydd eich babi’n cael ei heintio hefyd (hyd at 70% neu hyd at 70 gwaith o bob 100). Os byddwch chi’n cael y prawf sgrinio ac mae’r canlyniad yn bositif, gall eich babi gael ei frechu er mwyn lleihau’r perygl o’i heintio i lai na 5% (hynny yw, pum gwaith o bob 100).
Beth yw anfanteision cael prawf sgrinio am hepatitis B mewn beichiogrwydd?
Nid oes amser da i ddod i wybod fod hepatitis B arnoch chi. Ond, o gael gwybod yn ystod eich beichiogrwydd, gall eich babi gael ei frechu er mwyn helpu i osgoi ei weld yn dal y firws gennych chi.
Ddylwn i gael y prawf sgrinio am hepatitis B?
Dim ond chi sy’n gallu penderfynu ydych chi’n awyddus i gael y prawf neu beidio. Mae pob ysbyty yng Nghymru’n cynnig prawf sgrinio am hepatitis B i bob menyw feichiog er mwyn i’r babi gael ei frechu i helpu i’w rwystro rhag dal y firws gennych chi.
Beth fydd canlyniad y prawf sgrinio’n ei ddangos?
Mae sgrinio am hepatitis B yn chwilio am y firws hepatitis B yn eich gwaed.
Bydd canlyniad y prawf yn dweud wrthych chi a oes haint hepatitis B arnoch chi. Os yw’r canlyniad yn dangos nad oes haint arnoch chi, mae’n bwysig i chi gofio y gallwch chi ddal hepatitis B tra’r ydych chi’n feichiog. Os byddwch chi’n newid eich partner rhywiol yn ystod y beichiogrwydd, dylech chi ddefnyddio condom.
Os gwnaethoch chi ddal hepatitis B yn ystod yr ychydig o fisoedd cyn i’r sampl gwaed gael ei chymryd, ni fydd y prawf yn gallu datgelu’r haint.
Os ydych chi’n newid eich partner tra’r ydych chi’n feichiog, neu os ydych chi’n poeni eich bod wedi dal HIV, hepatitis B, siffilis neu fath arall o glefyd sy’n cael ei drosglwyddo o berson i berson, gallwch chi ofyn i’ch bydwraig wneud prawf arall ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd. Gallwch chi hefyd ofyn i’ch clinig iechyd rhywiol agosaf wneud prawf cyfrinachol. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.iechydcyhoedduscymru.org
Beth yw’r prawf diagnostig am hepatitis B?
Mae’r prawf sgrinio am hepatitis B yn un cywir iawn. Os yw’r prawf sgrinio’n dangos bod hepatitis B arnoch chi, bydd angen profion gwaed eraill arnoch chi er mwyn i’ch meddyg gynllunio’r brechiadau y bydd eich babi eu hangen.
Beth os oes hepatitis B arnaf i?
Os oes hepatitis B arnoch chi, bydd eich bydwraig neu feddyg yn trafod sut bydd y cyflwr yn effeithio arnoch chi.
Efallai’ch bod chi’n poeni hefyd fod yr haint ar aelodau eraill o’ch teulu. Mae’n bosib iddyn nhw gael prawf a brechiad hefyd os oes angen.
Siffilis
Beth yw siffilis?
Haint facteriol ddifrifol yw siffilis. Dim ond am gyfnod byr iawn ar y dechrau y bydd y rhan fwyaf o bobl â siffilis yn anhwylus, ac efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli bod yr haint arnyn nhw. Ond os nad yw siffilis yn cael ei drin, gallai achosi problemau difrifol yn nes ymlaen yn eu hoes, yn cynnwys niwed i’r ymennydd a phroblemau ar y galon.
Sut mae rhywun yn dal siffilis?
Mae’n bosib dal syffilis mewn sawl ffordd:
- gallai mam â’r haint ei throsglwyddo i’w babi yn ystod y beichiogrwydd;
- neu wrth wneud gweithred rywiol ddiamddiffyn (heb ddefnyddio condom) gyda rhywun sydd wedi’i heintio.
Beth yw manteision cael prawf sgrinio am siffilis mewn beichiogrwydd?
Bydd trin y cyflwr â chyffuriau gwrthfiotig yn gynnar yn y beichiogrwydd yn eich helpu chi. Bydd, fel arfer, yn rhwystro’r babi rhag dal siffilis. O dro i dro, mae angen cyffuriau gwrthfiotig ar fabanod hefyd, ar ôl y geni. Os oes siffilis arnoch chi pan rydych chi’n feichiog, gallai arwain at erthyliad naturiol neu niweidio’ch babi.
Beth yw anfanteision cael prawf sgrinio am siffilis mewn beichiogrwydd?
Nid oes amser da i ddod i wybod fod siffilis arnoch chi. Ond, o gael gwybod yn ystod eich beichiogrwydd, gallwch chi gael triniaeth i helpu i rwystro unrhyw broblemau difrifol rhag datblygu ar eich babi.
Ddylwn i gael y prawf sgrinio am siffilis?
Dim ond chi sy’n gallu penderfynu ydych chi’n awyddus i gael y prawf neu beidio. Mae pob ysbyty yng Nghymru’n cynnig prawf sgrinio am siffilis i bob menyw feichiog gan fod trin y clefyd â chyffuriau gwrthfiotig yn gallu helpu i rwystro problemau difrifol rhag datblygu ar eich babi.
Beth fydd canlyniad y prawf sgrinio’n ei ddangos?
Mae sgrinio am siffilis yn mesur y gwrthgyrff yn eich gwaed.
Bydd canlyniad y prawf yn dweud wrthych chi a oes haint siffilis arnoch chi. Os yw’r canlyniad yn dangos nad oes haint arnoch chi, mae’n bwysig i chi gofio y gallwch chi ddal siffilis tra’r ydych chi’n feichiog. Os byddwch chi’n newid eich partner rhywiol yn ystod y beichiogrwydd, dylech chi ddefnyddio condom.
Os gwnaethoch chi ddal siffilis yn ystod yr ychydig wythnosau cyn i’r sampl gwaed gael ei chymryd, efallai na fydd eich corff wedi dechrau creu gwrthgyrff. Ni fydd y prawf yn gallu datgelu’r haint.
Os ydych chi’n newid eich partner tra’r ydych chi’n feichiog, neu os ydych chi’n poeni eich bod wedi dal HIV, hepatitis B, siffilis neu fath arall o glefyd sy’n cael ei drosglwyddo o berson i berson, gallwch chi ofyn i’ch bydwraig wneud prawf arall ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd. Gallwch chi hefyd ofyn i’ch clinig iechyd rhywiol agosaf wneud prawf cyfrinachol. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.iechydcyhoedduscymru.org
Beth yw’r profion diagnostig am siffilis?
Nid yw canlyniadau’r prawf sgrinio am siffilis yn hawdd iawn eu deall bob tro. Bydd canlyniad y prawf sgrinio’n bositif weithiau am eich bod chi wedi cael siffilis yn y gorffennol ac wedi cael eich trin, neu am fod math arall o broblem lai difrifol arnoch chi. Os yw canlyniad y prawf sgrinio’n bositif, byddwch chi’n cael apwyntiad i drafod y sefyllfa gyda meddyg sy’n arbenigo ar y mathau yma o glefydon. Cyn gwneud diagnosis a phenderfynu ar y driniaeth orau, bydd y meddyg yma’n gofyn cwestiynau i chi ac yn holi ynglŷn ag unrhyw haint flaenorol.
Beth os oes siffilis arnaf i?
Os oes siffilis arnoch chi, bydd eich bydwraig neu feddyg yn trafod sut bydd y cyflwr yn effeithio arnoch chi. Byddwch chi’n cael cyffuriau gwrthfiotig mwy na thebyg, a bydd angen mwy o brofion gwaed arnoch chi.
Mwy o wybodaeth
Gallwch chi gael mwy o wybodaeth am siffilis gan:
- eich bydwraig, eich meddyg yn yr ysbyty (eich obstetregydd) neu’ch meddyg teulu;
- neu o glinig iechyd rhywiol agosaf y Gwasanaeth Iechyd – gallwch chi ffonio’ch ysbyty lleol a gofyn am y clinig iechyd rhywiol neu’r clinig GUM.
Rwbela (y frech Almaenig)
Ni fydd prawf sgrinio i weld a ydych chi wedi’ch diogelu rhag cael rwbela’n diogelu’r babi yn ystod y beichiogrwydd yma.
Os nad ydych chi wedi’ch diogelu rhag cael rwbela (hynny yw, mae tueddiad ynoch chi i gael rwbela), efallai y byddwch chi’n cael cyfle i gael brechiadau ar ôl y beichiogrwydd. Byddai hyn yn diogelu unrhyw feichiogrwydd sy’n dilyn rhag gweld rwbela’n effeithio arno.
Beth yw rwbela?
Salwch cyffredin ymhlith plant yw rwbela, neu’r frech Almaenig. Haint firaol yw sy’n lledaenu’n hawdd o unigolyn i unigolyn. Fel arfer, nid yw rwbela’n salwch difrifol. Mae brech ar y person sydd â rwbela fel arfer, ac mae’n teimlo’n anhwylus am ryw wythnos.
Os cewch chi rwbela yn ystod 12 wythnos gyntaf beichiogrwydd, gallai achosi niwed difrifol i ymennydd, calon, llygaid a chlyw eich babi. Syndrom rwbela cynhenid yw’r enw ar hyn.
Sut mae rhywun yn dal rwbela?
Mae’n bosib dal rwbela drwy:
- gyswllt uniongyrchol â’r hylifau o drwyn neu wddf rhywun sydd â’r haint;
- ac anadlu’r defnynnau sy’n cael eu chwistrellu i’r aer pan mae rhywun â’r haint yn tisian, yn pesychu neu’n siarad.
Beth yw manteision cael prawf sgrinio mewn beichiogrwydd am dueddiad i gael rwbela?
Os nad ydych chi wedi’ch diogelu rhag cael rwbela, byddwch chi’n cael cyfle ar ôl i’r beichiogrwydd yma ddod i ben i gael eich imiwneiddio ddwywaith rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (brechlyn MMR). Mae angen i chi gofio mai pwrpas y prawf sgrinio yma yw dod i wybod a ydych chi wedi’ch diogelu rhag rwbela neu beidio. Nid yw’r prawf yn chwilio am haint rwbela ac nid yw’n dangos a oes haint rwbela wedi effeithio ar y babi. Ni ddylech chi gael cyfle i gael y brechiad yn ystod beichiogrwydd.
Ddylwn i gael y prawf sgrinio i weld a ydw i wedi fy niogelu rhag rwbela neu beidio?
Dim ond chi sy’n gallu penderfynu ydych chi’n awyddus i gael y prawf neu beidio. Mae pob ysbyty yng Nghymru’n cynnig prawf sgrinio i bob menyw feichiog i weld a yw hi wedi’i diogelu rhag cael rwbela.
Hyd yn oed os cawsoch chi’r brechiad rwbela yn y gorffennol, mae’n dal yn bwysig i chi gael y prawf gwaed yn ystod eich beichiogrwydd presennol. Mae tua 5% (hynny yw, pump o bob 100) o’r bobl a gafodd eu brechu heb eu diogelu.
Beth yw’r prawf diagnostig i weld a yw rhywun wedi’i ddiogelu rhag rwbela?
Mae’r prawf sgrinio i weld a ydych chi wedi’ch diogelu rhag cael rwbela’n un cywir iawn. Fel arfer, ni fyddai angen i chi gael unrhyw brofion ychwanegol.
Beth os nad ydw i wedi fy niogelu rhag rwbela?
Os yw’r prawf yn dangos nad ydych chi wedi’ch diogelu, byddwch chi’n cael cyfle i gael dau frechiad MMR er mwyn eich diogelu yn ystod unrhyw feichiogrwydd sy’n dilyn. Dylai’r brechiad cyntaf gael ei roi ar ôl i’r beichiogrwydd presennol ddod i ben, gydag ail frechiad bedair wythnos wedi hynny.
Gwybodaeth bwysig
Os byddwch chi’n cael brech yn ystod eich beichiogrwydd neu’n dod i gysylltiad â rhywun arall sydd â brech, dywedwch wrth eich bydwraig neu feddyg. Efallai y bydd angen i chi gael profion gwaed eraill i weld a ydych chi wedi dal rwbela neu haint firaol arall sy’n achosi brech. |