Rwbela (Y Frech Almaenig)
Mae’r daflen yma i ferched a gafodd wybod, ar ôl cael prawf sgrinio, nad ydyn nhw wedi’u diogelu rhag rwbela (y Frech Almaenig).
Mae’r daflen yma’n esbonio’r canlyniad ac mae’n cynnig gwybodaeth am:
- haint rwbela yn ystod eich beichiogrwydd;
- brechlyn rhag brech goch, clwy pennau a rwbela (MMR) y bydd cyfle i chi ei gael ar ddiwedd eich beichiogrwydd. Dydyn ni ddim yn argymell brechu rhag rwbela tra’r ydych chi’n feichiog.
|